{"id":1859,"date":"2018-09-07T09:48:22","date_gmt":"2018-09-07T09:48:22","guid":{"rendered":"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=1859"},"modified":"2021-04-14T13:56:41","modified_gmt":"2021-04-14T13:56:41","slug":"beth-ydy-credydau-amser-y-da-y-gwych-ar-anhygoel","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/beth-ydy-credydau-amser-y-da-y-gwych-ar-anhygoel\/","title":{"rendered":"Beth ydy Credydau Amser? Y Da, Y Gwych a&#8217;r Anhygoel"},"content":{"rendered":"<h2>Newyddion da. Caerdydd, lle ti&#8217;n debygol o fyw os wyt ti&#8217;n darllen hwn, ydy&#8217;r lle gorau i fyw os wyt ti eisiau ennill <em>CREDYDAU AMSER<\/em>. Dyma&#8217;r lle gorau hefyd i WARIO credydau amser. &#8220;Ond beth YDY Credydau Amser?&#8221; Wel, gwranda&#8217;n astud wrth i mi ddweud wrthyt ti.<\/h2>\n<h3>Beth ydy Credydau Amser?<\/h3>\n<p>Iawn, iawn, fe glywais i ti&#8217;r tro cyntaf. Mae Credydau Amser yn debyg iawn i rywbeth arall sydd efallai&#8217;n fwy cyfarwydd i ti, rhywbeth gelwir yn &#8220;arian&#8221;. Yn y gornel hon o&#8217;r byd efallai eich bod wedi arfer gyda gweld y &#8216;punt&#8217;. A gan fod Credydau Amser yn dod fel nodyn bach prydferth gyda llawer o luniau arno, ni ellir dadlau nad yw&#8217;n edrych yn debyg i arian parod. Ond gall wario arian ar unrhyw beth. Pan fyddi di&#8217;n defnyddio Credyd Amser rwyt ti&#8217;n gwybod dy fod wedi&#8217;i ennill wrth gefnogi dy gymuned, ac yn cael hwyl. Nid oes yr un Credyd Amser wedi\u2019i wario ar hen fwydydd diflas o&#8217;r archfarchnad, ac mae&#8217;n debyg nad yw <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Jeff_Bezos\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Jeff Bezos<\/a> yn berchen ar Gredyd Amser.<\/p>\n<h3>Sut ydw i&#8217;n ennill Credydau Amser?<\/h3>\n<p>Dyma rhai o&#8217;r ffyrdd gellir ennill Credyd Amser (neu sawl Credyd Amser) yng Nghaerdydd:<\/p>\n<ul>\n<li>Trwsio beic, cyfrifiadur neu lwyth o bethau eraill yn <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/earn\/2312\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Repair Cafe Wales<\/a><\/li>\n<li>Cefnogi noson t\u00e2n gwyllt <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/earn\/2326\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gr\u0175p Sgowtiaid<\/a> Llysfaen a Llanisien<\/li>\n<li>Gweini brecwast i&#8217;r rhai mewn angen yn yr <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/earn\/2027\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Hen Lyfrgell<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/timecredits.com\/earn\/756\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Paratoi pryd o fwyd<\/a> i bobl sydd yn gwella o gamdriniaeth cyffuriau ac alcohol<\/li>\n<li>Cefnogi <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/earn\/754\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">prosiectau gwirfoddoli eraill<\/a> yn y DU<\/li>\n<li>Cyflwyno&#8217;r newyddion yn <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/earn\/2236\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Bro Radio<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/timecredits.com\/earn\/2050\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfweld \u00e2 phobl<\/a> sydd wedi gadael gofal cymdeithasol yn ddiweddar<\/li>\n<li>Helpu rhai <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/earn\/2174\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">allan o waith yn Rhondda Cynon Taf<\/a> i wneud cais am swyddi<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/timecredits.com\/earn\/2239\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Torri&#8217;r gwair<\/a> lawr ym Mro Morgannwg<\/li>\n<\/ul>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-15671 size-full\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/09\/Cardiff.jpg\" alt=\"\" width=\"1440\" height=\"1018\" \/><\/p>\n<h3>Pam ddim talu?<\/h3>\n<p>Mae yna wahaniaethau rhwng Credydau Amser ac arian, dim treth yn un. Yn ogystal \u00e2 buddio&#8217;r gymuned a dy fywyd di, mae credydau amser yn credu mewn system gyfartal. Rho awr ac fe gei di awr. Os wyt ti&#8217;n treulio dwy awr yn torri&#8217;r gwair, yna gallet ti weld sioe theatr wych dwy awr o hyd. Gwaith wedi&#8217;i wneud yn dda, a hwyl haeddiannol!<\/p>\n<h3>Ar beth ydw i&#8217;n cael gwario Credydau Amser?<\/h3>\n<p>Bydd bron popeth gellir gwario credydau amser arnynt yn buddio ti&#8217;n bersonol, o ymarfer corff i&#8217;r celfyddydau. Dyma fersiwn byr o&#8217;r rhestr lawn:<\/p>\n<ul>\n<li>Gweld cyngerdd yn <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/spend\/1602\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Neuadd Dewi Sant<\/a><\/li>\n<li>Dringo yn <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/spend\/1298\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Boulders<\/a><\/li>\n<li>Gweld <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/spend\/1441\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">g\u00eam criced<\/a> yn un o&#8217;r 16,000 o&#8217;r seddi yn Stadiwm Swalec ym Mharc Bute<\/li>\n<li>Ymdrochi mewn diwylliant gydag un o sioeau epig <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/spend\/1658\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Canolfan Mileniwm Cymru<\/a><\/li>\n<li>Ymweld \u00e2 <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/spend\/1612\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Techniquest<\/a> (GWYDDONIAETH!)<\/li>\n<li>Nofio a sesiynau &#8216;gym&#8217; am ddim yn bron i bob canolfan hamdden yng Nghaerdydd, Caerffili a thu hwnt &#8211; gan gynnwys y <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/spend\/1333\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Pwll Rhyngwladol<\/a> (gyda&#8217;i sleidiau gwych)<\/li>\n<li>Sglefrio yn <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/spend\/1599\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Spit and Sawdust<\/a><\/li>\n<li>Benthyg <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/spend\/1979\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">siwt Si\u00f4n Corn<\/a><\/li>\n<li>Mynediad i nifer o leoliadau hanesyddol am ddim, gan gynnwys <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/spend\/1928\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Castell Caerffili<\/a><\/li>\n<li>Sesiwn harddwch gan <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/spend\/1372\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Goleg y Cymoedd<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<h3>Sut ydw i&#8217;n dechrau ennill Credydau Amser?<\/h3>\n<p>Nid oes y fath beth \u00e2 &#8220;chyfrif banc&#8221; Credyd Amser (eto&#8230;) Ti&#8217;n ennill ychydig, a gwario ychydig. I ddechrau ennill, bydd angen mynd i <a href=\"https:\/\/timecredits.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">timecredits.com<\/a>, chwilio yn eich ardal am weithgaredd sydd o ddiddordeb, a chysylltu \u00e2&#8217;r trefnydd.<\/p>\n<p><em>Am wybodaeth bellach ar gyfleoedd gwirfoddoli Caerdydd, edrycha ar ein tudalen sydd yn cynnwys map defnyddiol:<\/em><\/p>\n<p>http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/gwaith-a-hyfforddiant\/gwirfoddoli-2\/<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Newyddion da. Caerdydd, lle ti&#8217;n debygol o fyw os wyt ti&#8217;n darllen hwn, ydy&#8217;r lle gorau i fyw os wyt ti eisiau ennill CREDYDAU AMSER. Dyma&#8217;r lle gorau hefyd i&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":1860,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[22],"tags":[511,507,508,46,512,510,509],"class_list":["post-1859","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwirfoddoli","tag-credydau-amser","tag-credydau-amser-caerdydd","tag-cymuned","tag-gwirfoddoli","tag-gwirfoddoli-yng-nghaerdydd","tag-just-add-spice","tag-rhoi-awr-cael-awr"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1859","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1859"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1859\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1863,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1859\/revisions\/1863"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1860"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1859"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1859"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1859"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}