{"id":1744,"date":"2018-08-03T09:09:36","date_gmt":"2018-08-03T09:09:36","guid":{"rendered":"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=1744"},"modified":"2018-08-03T09:10:18","modified_gmt":"2018-08-03T09:10:18","slug":"canllaw-digwyddiadau-yr-eisteddfod-genedlaethol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/canllaw-digwyddiadau-yr-eisteddfod-genedlaethol\/","title":{"rendered":"Canllaw Digwyddiadau Yr Eisteddfod Genedlaethol"},"content":{"rendered":"<h2 class=\"p1\">Cynhelir Eisteddfod wahanol iawn eleni. Dim gorfod gwerthu aren i dalu mynediad i&#8217;r maes. Dim angen welis i droedio o stondin i stondin mewn cae mwdlyd. Dim chwys yn diferu ar dy ben o do pabell Maes B, ceir ddawnsio eleni mewn lleoliad fu unwaith yn gartref i&#8217;r Daleks.<\/h2>\n<p class=\"p1\">Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi dychwelyd i Gaerdydd ar \u00f4l 10 mlynedd. Cynhelir yn ardal eiconig y Bae, ac mae&#8217;n rhad ac am ddim i fynd yno. Ond beth ydy Eisteddfod, a beth wyt ti&#8217;n ei wneud yno? Wel, mae&#8217;r Sprout yma i helpu gydag atebion i dy gwestiynau.<\/p>\n<h3>Beth ydy&#8217;r Eisteddfod?<\/h3>\n<p class=\"p1\">Rhanna&#8217;r gair Eisteddfod yn ddau ddarn, mae&#8217;n golygu i &#8220;eistedd&#8221; ac i &#8220;fod&#8221;. Eithaf barddol i ddweud y gwir, sydd yn briodol gan mai g\u0175yl gerddoriaeth, barddoniaeth ac ati yw hon. Ond yn hanfodol, mae yna elfen gystadleuol i&#8217;r Eisteddfod &#8211; rhai&#8217;n fuddugol a rhai&#8217;n colli.<\/p>\n<p class=\"p1\">Mae yna sawl Eisteddfod, ond dim ond un Eisteddfod Genedlaethol. Mae&#8217;r Eisteddfod yn cael ei chynnal bob blwyddyn ac yn dathlu diwylliant Cymru gyfan. Dyma&#8217;r \u0175yl fwyaf o&#8217;i fath yn Ewrop. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yng Nghaerdydd yn 1883.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n debyg mai enillydd enwocaf yr Eisteddfod Genedlaethol oedd Hedd Wyn, neu Ellis Evans oedd ei wir enw. Enillodd gyda&#8217;i gerdd arloesol yn 1917 ond erbyn iddynt gyhoeddi&#8217;r enillydd roedd wedi cael ei ladd ar faes y gad, ynghyd a sawl arall, yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.<\/p>\n<p>Yr Eisteddfod arall cydnabyddus ydy Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod yr ieuenctid. Bydd yr Eisteddfod yma yn dod i Gaerdydd yn 2019.<\/p>\n<h3>Beth sydd yno i&#8217;w wneud?<\/h3>\n<p>Bydd yna gyngherddau, comedi, llenyddiaeth, cwisys, bwyd, carnifalau, ffilmiau, theatr, barddoni, cystadlaethau a llawer, llawer mwy. Mae&#8217;r mwyafrif o gynnwys yr Eisteddfod yn cael ei gyflwyno yng Nghymraeg fel arfer.<\/p>\n<p>Dyma rhai o&#8217;r digwyddiadau cynhelir yn ystod yr wythnos:<\/p>\n<ul>\n<li>Ffilm Coleg Celf Casnewydd o 1968 <em>Ar \u00d4l Aml Haf: Gwedd Newidiol Tiger Bay<\/em>, yn cael ei dangos fel rhan o <a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/y-maes\/lleoliadaur-maes\/y-lle-celf\/ddoeheddiw-80-mlynedd-o-gasglu\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">arddangosfa 80 mlynedd o gasglu Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru<\/a>.<\/li>\n<li>Mae Cymorth Cristnogol Cymru yn creu ystafell ddianc\u00a0<a href=\"https:\/\/twitter.com\/DileuTlodi\/status\/1021832504062484482\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ac maent yn chwilio am wirfoddolwyr!<\/a><\/li>\n<li>Gweithgareddau gwyddonol cyffrous o sut i adeiladu cwch, i droi&#8217;r don ar blastig; <a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/y-maes\/lleoliadaur-maes\/pentref-gwyddoniaeth-thechnoleg\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">edrycha ar yr amserlen<\/a>.<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/digwyddiadau\/dydd\/10-awst-2018\/cwis-cymru-ar-y-map\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cwis Cymru ar y Map<\/a>: Profa dy ymwybyddiaeth o Gymru<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/y-maes\/lleoliadaur-maes\/carnifal-y-mor\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Carnifal y M\u00f4r<\/a> &#8211; carnifal lliwgar a cherddoriaeth fywiog<\/li>\n<li>Rhaglennu g\u00eam rasio neu ddeifio yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg gyda&#8217;r DVLA!<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/digwyddiadau\/dydd\/10-awst-2018\/slot-y-selar-sgiliau-sgwennu-zine\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ysgrifenna zine dy hun<\/a> gyda chriw cylchgrawn Y Selar<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/digwyddiadau\/dydd\/7-awst-2018\/creu-cymeriadau-cart%C5%B5ns-%E2%80%93-j%C3%B4cs-ofnadwy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Creu cart\u0175n gyda Huw Aaron<\/a>, cartwnydd cylchgrawn Mellten<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/y-maes\/lleoliadaur-maes\/llwyfan-y-maes-bbc-radio-cymru\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Llwyfan BBC Radio Cymru<\/a>: gwledd o gerddoriaeth gan fandiau ac artistiaid gorau&#8217;r s\u00een Gymraeg<\/li>\n<\/ul>\n<p>Fel sonnir, mae&#8217;r gweithgareddau yma am ddim, felly cer draw i&#8217;r Bae dros yr wythnos nesaf i ymdrochi dy hun yn y profiad.<\/p>\n<h3>Gwybodaeth ychwanegol<\/h3>\n<p>Cynhelir dros 1,000 o weithgareddau dros yr wythnos, rhai am ddim, rhai sy&#8217;n rhaid talu. <a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/digwyddiadau\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Chwilia&#8217;r holl ddigwyddiadau yma\u00a0<\/a>neu <a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/sites\/default\/files\/resources\/PP_a5_2018%20WEB.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">lawrlwytha&#8217;r Rhaglen Boced yma.<\/a><\/p>\n<p>I weld ble mae <a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/y-maes\/lleoliadaur-maes\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">lleoliadau gwahanol y maes gweler yma.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cynhelir Eisteddfod wahanol iawn eleni. Dim gorfod gwerthu aren i dalu mynediad i&#8217;r maes. Dim angen welis i droedio o stondin i stondin mewn cae mwdlyd. Dim chwys yn diferu&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":1734,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1,359],"tags":[49,427,361,425,424,426,421,72,360],"class_list":["post-1744","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-pethau-iw-gwneud","tag-caerdydd","tag-celf","tag-digwyddiadau","tag-digwyddiadau-am-ddim","tag-digwyddiadaur-eisteddfod","tag-diwylliant","tag-eisteddfod","tag-hanes","tag-pethau-iw-gwneud"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1744","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1744"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1744\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1757,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1744\/revisions\/1757"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1734"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1744"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1744"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1744"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}