{"id":1399,"date":"2018-07-19T10:00:11","date_gmt":"2018-07-19T10:00:11","guid":{"rendered":"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=1399"},"modified":"2018-07-18T09:31:38","modified_gmt":"2018-07-18T09:31:38","slug":"pethau-i-wneud-caerdydd-20-27-gorff","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/pethau-i-wneud-caerdydd-20-27-gorff\/","title":{"rendered":"Pethau Rhad Ac Am Ddim i Wneud Yng Nghaerdydd: 20-27 Gorffennaf 2018"},"content":{"rendered":"<h2>Hon yw&#8217;r wythnos diwethaf yn yr ysgol i sawl person ifanc yng Nghaerdydd. Bydd angen meddwl am ddigon o bethau cyffrous i&#8217;w gwneud o wythnos nesaf ymlaen ar \u00f4l dioddef yr holl fisoedd caeth mewn dosbarth myglyd poeth.<\/h2>\n<p>Dyma le gall theSprout helpu. Croeso i&#8217;n dewis ni o bethau rhad ac am ddim i&#8217;w gwneud yn y ddinas yn ystod y 7 diwrnod nesaf.<\/p>\n<h3>Clwb Comedi The Drones<\/h3>\n<p>20 Gorffennaf 9yh &#8211; Canolfan Gelfyddydau Chapter &#8211; \u00a33.50<\/p>\n<div id=\"attachment_14448\" style=\"width: 1450px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/LETdkk7wHQk\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14448\" class=\"wp-image-14448 size-full\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/07\/kane-reinholdtsen-145944-unsplash.jpg\" alt=\"Comedi - Llun gan Kane Reinholdtsen ar Unsplash\" width=\"1440\" height=\"960\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14448\" class=\"wp-caption-text\"><em><a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/LETdkk7wHQk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Credyd llun: Kane Reinholdtsen ar Unsplash<\/a><\/em><\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r noson gomedi yma, cynhelir ddwywaith y mis, yn dychwelyd i&#8217;r Chapter! Dyma un o&#8217;r nosweithiau allan rhataf yn y ddinas, gan mai dim ond \u00a33.50 ydy tocyn. Bydd yna gomediwyr gwych yn sicr o fod yn perfformio bob tro, felly cer draw am dref Canton. <a href=\"https:\/\/www.chapter.org\/cy\/clwb-comedi-drones\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Tocynnau ar gael yma.<\/a><\/p>\n<h3>Straeon Sherman 5<\/h3>\n<p>20 a 21 Gorffennaf 10:30-17:00 &#8211; Theatr y Sherman &#8211; Am ddim<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"What is Sherman 5?\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/SMATNODQMo8?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Theatr y Sherman wedi bod yn cynnal rhaglen y Sherman 5. Mae&#8217;r rhaglen yn gwahodd pobl o gefndiroedd difreintiedig i&#8217;r theatr. Maent yn cynnig trafnidiaeth am ddim, sioe gyntaf am ddim a llawer iawn o ddisgownt. Ar y dydd Sadwrn bydd yna ddiwrnod llawn o ddigwyddiadau am ddim yn dathlu pum mlynedd o&#8217;r rhaglen. Bydd deg ffilm fer yn cael ei ddangos yn dogfennu cynnydd cyfranogwyr nodedig, yn ogystal ag arddangosfa ffotograffiaeth. <a href=\"http:\/\/www.shermantheatre.co.uk\/performance\/digwyddiadau-am-ddim\/straeon-sherman-5\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gwybodaeth bellach ar gael gan Sherman.<\/a><\/p>\n<h3>Cyflwyniad i Permaddiwylliant<\/h3>\n<p>21 Gorffennaf 10:30-16:30 &#8211; Global Gardens, Caerdydd &#8211; Am ddim<\/p>\n<div id=\"attachment_14466\" style=\"width: 810px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/introduction-to-permaculture-tickets-47168990721\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14466\" class=\"wp-image-14466 size-full\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/07\/permaculture.jpg\" alt=\"Permaddiwylliant - Global Gardens Caerdydd\" width=\"800\" height=\"400\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14466\" class=\"wp-caption-text\"><a href=\"https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/introduction-to-permaculture-tickets-47168990721\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><em>Credyd llun: Permaddiwylliant &#8211; Global Gardens Caerdydd<\/em><\/a><\/p><\/div>\n<p>Wyddost ti fod gan Gaerdydd ardd fyd-eang ei hun? Wyddost ti hefyd fod gennym ni Rwydwaith Permaddiwylliant? Nid wyf yn rhy sicr beth yw ystyr hyn yn bersonol, ond mae&#8217;n ymddangos fel ffordd dda i gael dy ddwylo&#8217;n fudr. Mae&#8217;r digwyddiad yn addo garddio bwytadwy &#8211; cinio am ddim felly!<a href=\"https:\/\/www.eventbrite.co.uk\/e\/introduction-to-permaculture-tickets-47168990721\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"> Tocynnau am ddim ar Eventbrite.<\/a><\/p>\n<h3>Theatr Awyr Agored: King Lear<\/h3>\n<p>Dydd Sul, 22 Gorffennaf 8yh &#8211; Gerddi Soffia &#8211; \u00a38 (dan 18)<\/p>\n<div id=\"attachment_14464\" style=\"width: 1450px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.pexels.com\/photo\/war-chess-59197\/\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14464\" class=\"wp-image-14464 size-full\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/07\/battle-board-game-chance-59197.jpg\" alt=\"Llun gan Gladson Xavier ar Pexels\" width=\"1440\" height=\"985\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14464\" class=\"wp-caption-text\"><a href=\"https:\/\/www.pexels.com\/photo\/war-chess-59197\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><em>Credyd llun: Gladson Xavier ar Pexels<\/em><\/a><\/p><\/div>\n<p>Os wyt ti ar fin dechrau yn y chweched ym mis Medi, beth am ddod yn gyfarwydd gydag astudiaethau Saesneg Lefel-A yn gynnar, a gwylio&#8217;r cynhyrchiad Theatr Ieuenctid Everyman yma? Mae<a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/events\/188193728460475\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"> tudalen Facebook y digwyddiad<\/a> yn addo &#8220;fersiwn byr o&#8217;r clasur&#8221;. Be well nag mwynhau&#8217;r haf wrth wylio dyn yn tynnu llygaid ei hun allan ar y llwyfan?<\/p>\n<h3>Rhyfeddodau Tanddwr<\/h3>\n<p>23-26 Gorffennaf &#8211; Gwlypdiroedd Casnewydd &#8211; \u00a35.50<\/p>\n<div id=\"attachment_14465\" style=\"width: 778px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.rspb.org.uk\/reserves-and-events\/reserves-a-z\/newport-wetlands\/\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14465\" class=\"wp-image-14465 size-full\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/07\/newport-wetlands-winter-1033819-rspb-newport-wetlands-centre-newport-wales.jpg\" alt=\"Llun gan RSPB: Newport Wetlands\" width=\"768\" height=\"432\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14465\" class=\"wp-caption-text\"><a href=\"https:\/\/www.rspb.org.uk\/reserves-and-events\/reserves-a-z\/newport-wetlands\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><em>Credyd llun: RSPB: Newport Wetlands<\/em><\/a><\/p><\/div>\n<p>Ydy trochi mewn pyllau yn swnio fel hwyl? Beth os cei di ddefnyddio camera tanddwr? Swnio&#8217;n c\u0175l? Tynna luniau o bysgod a holl fywyd gwyllt y tanddaearol sydd yn llercian dan arwyneb gwlypdiroedd eang Casnewydd. Gwybodaeth bellach ar <a href=\"https:\/\/ww2.rspb.org.uk\/reserves-and-events\/events-dates-and-inspiration\/events\/details.aspx?id=tcm:9-455872\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">wefan y RSPB<\/a>.<\/p>\n<h3>Ac yn olaf&#8230;<\/h3>\n<p>Os wyt ti&#8217;n hapus i ymlacio ar ychydig o reidiau ffair hen ffasiwn, mae G\u0175yl Traeth y Bae Capital FM yn parhau. Os oes gen ti arian i&#8217;w wario beth am roi tro ar ddigwyddiadau gwyliau haf <a href=\"http:\/\/bouldersuk.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Boulders<\/a>, lle gallet ti ddysgu dringo mewn diwrnod am \u00a315 (offer yn gynwysedig). A chofia prynu dy docynnau ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.pridecymru.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Penwythnos Mawr Pride Cymru<\/a> ym mis Awst.<\/p>\n<p>Mwynha dy wythnos!<\/p>\n<hr \/>\n<h4>Yn chwilio am fwy o ddigwyddiadau? Beth am nodi <a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/digwyddiadau\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">tudalen digwyddiadau<\/a> theSprout am wybodaeth gyfoes. Cofia ddod yn \u00f4l wythnos nesaf am fwy o bethau gwych i wneud yng Nghaerdydd fydd ddim yn torri&#8217;r banc.<\/h4>\n<p><em><a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/LETdkk7wHQk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Credyd llun clawr: Kane Reinholdtsen ar Unsplash<\/a><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Hon yw&#8217;r wythnos diwethaf yn yr ysgol i sawl person ifanc yng Nghaerdydd. Bydd angen meddwl am ddigon o bethau cyffrous i&#8217;w gwneud o wythnos nesaf ymlaen ar \u00f4l dioddef&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":1598,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[359],"tags":[49,102,361,362,364,363,360,38,91],"class_list":["post-1399","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-pethau-iw-gwneud","tag-caerdydd","tag-comedi","tag-digwyddiadau","tag-digwyddiadau-caerdydd","tag-garddio","tag-permaddiwylliant","tag-pethau-iw-gwneud","tag-pobl-ifanc","tag-theatr"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1399","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1399"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1399\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1614,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1399\/revisions\/1614"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1598"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1399"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1399"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1399"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}