{"id":80,"date":"2016-09-05T14:57:18","date_gmt":"2016-09-05T14:57:18","guid":{"rendered":"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?page_id=80"},"modified":"2018-06-14T09:52:30","modified_gmt":"2018-06-14T09:52:30","slug":"amodau-a-thelerau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/amodau-a-thelerau\/","title":{"rendered":"Amodau a Thelerau"},"content":{"rendered":"<p>Polisi Preifatrwydd<\/p>\n<p>Mae preifatrwydd ein defnyddwyr yn bwysig i ni ac rydym yn gofalu ein bod yn ei ddiogelu. O dan Ddeddf Gwarchod Data 1998, mae gennym oblygiadau cyfreithiol tuag atat ti yn y modd yr ydym yn ymdrin \u00e2 data a gesglir gennyt. Rydym yn defnyddio\u2019r technolegau diweddaraf a meddalwedd encryptio i ddiogelu dy ddata, ac yn cadw safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad heb ei awdurdodi ato. Nid ydym yn trosglwyddo dy fanylion i unrhyw drydydd parti nac adran o\u2019r llywodraeth oni bai dy fod yn rhoi caniat\u00e2d inni wneud hynny, neu ein bod o dan rwymedigaeth neu y caniateir inni eu datgelu yn \u00f4l y gyfraith.<\/p>\n<p>Pan ydwyt yn gofrestru fel defnyddiwr, byddwn yn casglu\u2019r wybodaeth sy\u2019n angenrheidiol i roi\u2019r gwasanaeth sy\u2019n cynnwys fel isafswm, dy enw a dy gyfeiriad e-bost. (Gofynnir i sefydliadau lenwi ffurflen gofrestru CLICarlein). Wedi i ti gofrestru, gallet ailedrych ar dy broffil unrhyw bryd i ddiwygio\u2019r manylion hyn neu i roi manylion ychwanegol.<\/p>\n<p>Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gennyt os ydwyt yn llenwi unrhyw ffurflenni eraill ar ein safle neu os cysyllta \u00e2 ni gyda sylwadau neu geisiadau penodol. Rydym yn defnyddio dy wybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaeth a bersonolir i bob un o\u2019n hymwelwyr. Rydym hefyd am roi rheolaeth i ti ar beth a dderbyniwyt o ganlyniad i gofrestru gyda CLICarlein. Rydym yn casglu gwybodaeth yn awtomatig am dy ymweliad i\u2019n safle. Defnyddir yr wybodaeth hon i wneud dy ymweliad i\u2019n safle mor effeithlon \u00e2 phosibl, ac i\u2019n helpu i ddilyn hoffterau pori ar ein safle fel y gallwn wneud gwelliannau rheolaidd.<\/p>\n<p><b>Dolennau<\/b><\/p>\n<p>Trwy gydol y gwefan byddi di\u2019n darganfod dolennau hyperdestun i leoliadau eraill ar y Rhyngrwyd. Defnyddir y dolennau hyn i bwrpas gwybodaeth yn unig ac ni chymerir unrhyw restriad fel cefnogaeth o unrhyw fath.<\/p>\n<p>Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod y dolennau hyn yn briodol ar yr adeg y gosodir nhw. Nid yw TheSprout o anghenraid yn cytuno gyda\u2019r farn a fynegir o fewn y gwefannau cysylltiedig hyn ac nid oes gan CLICarlein unrhyw reolaeth drostynt.<\/p>\n<p>Ni all TheSprout warantu fod y dolennau hyn yn ddibynadwy na p\u2019run ai ydynt yn gweithio ai peidio bob amser.<\/p>\n<p><b>Cwcis<\/b><\/p>\n<p>Mae llawer o wefannau yn gosod cwcis pryd bynnag y mae defnyddiwr yn ymweld \u00e2\u2019u safle, er mwyn tracio llif y drafnidiaeth. Mae cwcis yn ffeiliau testun sy\u2019n adnabod dy gyfrifiadur i\u2019r serfiwr. Gall TheSprout ddefnyddio cwcis o bryd i\u2019w gilydd ond dim ond i wneud dy brofiad o\u2019r we yn well. Nid ydym yn tracio ymwelwyr unigol ar y we.<\/p>\n<p>Os hoffet wybod mwy am cwcis cer i<a href=\"http:\/\/aboutcookies.org\"> AboutCookies.org<\/a>.<\/p>\n<p><b>Cais am Wybodaeth<\/b><\/p>\n<p>Gallwch ofyn am gopi o\u2019r wybodaeth sydd gennym amdanat ti unrhyw bryd (gallwn godi t\u00e2l bach amdano). Byddwn hefyd yn cywiro unrhyw wallau yn dy wybodaeth pan wna di gais am hynny.<\/p>\n<p><b>Newidiadau i\u2019r Polisi Preifatrwydd<\/b><\/p>\n<p>Os gwnawn newidiadau i\u2019n Polisi Preifatrwydd sy\u2019n effeithio ar sut yr ydym yn trin dy data di, byddwn yn rhoi gwybod i ti drwy e-bost. Gallet wirio ein Polisi Preifatrwydd yn y dudalen hon unrhyw bryd.<\/p>\n<p><b>Cysylltu<\/b><\/p>\n<p>Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o\u2019r wybodaeth, cysylltwch \u00e2 ni &#8211; info@TheSprout.co.uk<\/p>\n<p><b>Hawlfraint<\/b><\/p>\n<p>Mae\u2019r deunydd y rhoddir sylw iddo ar wefan TheSprout yn ddarostyngedig i warchodaeth Hawlfraint y Goron oni bai y nodir fel arall. Rhaid i unrhyw un sy\u2019n dymuno defnyddio unrhyw wybodaeth a ganfyddir ar y wefan hon gysylltu \u00e2 ni info@TheSprout.co.uk. Nid yw caniat\u00e2d i atgynhyrchu deunydd a warchodir gan hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y safle hwn a nodir fel deunydd sy\u2019n hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdodiad i atgynhyrchu deunydd o\u2019r fath gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.<\/p>\n<p><b>Delweddau<\/b><\/p>\n<p>Mae\u2019r gair delweddau yn ymdrin \u00e2 phob delwedd symudol neu lonydd, ffotograffau a logos.<\/p>\n<p>Mae delweddau ar y wefan naill ai\u2019n eiddo TheSprout, y sefydliadau eu hunain, neu wedi eu trwyddedu oddi wrth drydydd parti. Ni all delweddau a gymerir gan drydydd parti gael eu hatgynhyrchu mewn unrhyw fformat.<\/p>\n<p>Ni all rhai delweddau sy\u2019n eiddo i CLICarlein gael eu hatgynhyrchu, gall rhai eraill gael eu hatgynhyrchu mewn rhai amgylchiadau, ond nid heb gymeradwyaeth ymlaen llaw.<\/p>\n<p>Os dymunet atgynhyrchu unrhyw ddelweddau, gan gynnwys Logo CLICarlein rhaid i ti gysylltu \u00e2 ni yn gyntaf am ganllawiau ac awdurdodiad pellach. Rhowch fanylion dy sefydliad, pa ddelweddau yr hoffet eu defnyddio a sut y bwriadwyt eu defnyddio.<\/p>\n<p>Amodau a Thelerau<\/p>\n<p>Croeso i amodau a thelerau gwefan thesprout.co.uk (\u201cAmodau a Thelerau\u201d), sy\u2019n berthnasol i\u2019th defnydd o\u2019r wefan hon. Drwy gyrchu y Wefan hon, rwyt yn cytuno i gael dy rhwymo gan yr Amodau a\u2019r Telerau hyn. Darperir y Wefan hon er budd trigolion aelod o\u2019r Undeb Ewropeaidd (\u201cUE\u201d) a thrigolion Norwy, Gwlad yr I\u00e2 a Lichtenstein. Os nad ydwyt yn byw yn un o\u2019r gwledydd hyn neu nad ydwyt yn cytuno i gael dy rhwymo gan yr Amodau a\u2019r Telerau hyn, ni allet ddefnyddio na chael mynediad at y Wefan hon ac mae gennym yr hawl i gyfyngu ar neu atal mynediad o\u2019r fath. DIFFINIADAU Mae \u201cDefnyddiwr(wyr)\u201d yn golygu (a) defnyddiwr(wyr) y Wefan naill ai gyda\u2019i gilydd neu yn unigol, fel sy\u2019n ofynnol yn \u00f4l y cyd-destun, ac eithrio mewn cysylltiad \u00e2 data personol, a fydd yn ymwneud ag unigolion byw yn unig; bydd \u201cData Personol\u201d yn cael yr un ystyr \u00e2\u2019r un a gyflwynir yn Neddf Gwarchod Data 1998 (DPA 1998) a bydd yn cynnwys unrhyw fanylion personol a ddarperir gennyt ti drwy\u2019r wefan, mae \u201cNi\/ein\u201d yn golygu thesprout.co.uk, mae \u201cGwefan\u201d yn golygu\u2019r wefan a leolir yn www.thesprout.co.uk neu unrhyw URL dilynol a all gymryd ei le, ac mae \u201cChi\/eich\u201d yn golygu chi fel defnyddiwr y Wefan.<\/p>\n<ol>\n<li>MYNEDIAD<\/li>\n<li>Byddwn yn darparu mynediad i chi i\u2019r Wefan yn unol \u00e2\u2019r Amodau a\u2019r Telerau hyn.<\/li>\n<\/ol>\n<ol start=\"2\">\n<li>EICH RHWYMEDIGAETHAU<\/li>\n<\/ol>\n<p>2.1 Rydych chi:<\/p>\n<p>2.1.1 yn cytuno i beidio \u00e2 defnyddio\u2019r wefan (nac unrhyw ran ohoni) i unrhyw bwrpas anghyfreithlon ac yn cytuno i\u2019w defnyddio yn unol \u00e2\u2019r holl ddeddfau perthnasol;<\/p>\n<p>2.1.2 yn cytuno i beidio \u00e2 llwytho na thrawsyrru drwy\u2019r wefan unrhyw firysau cyfrifiadurol, macro-firysau, ceffylau Caerdroia, \u2018mwydod\u2019, neu unrhyw beth arall a fwriadwyd i ymyrryd ar neu amharu neu aflonyddu ar weithdrefn gweithredu arferol cyfrifiadur;<\/p>\n<p>2.1.3 cytuno i beidio \u00e2 llwytho na thrawsyrru drwy\u2019r wefan unrhyw ddeunydd sy\u2019n ddifr\u00efol, yn dramgwyddus, neu o natur aflan neu fygythiol, neu a all achosi blinder, anghyfleuster neu bryder diangen<\/p>\n<p>2.1.4 cytuno i beidio \u00e2 defnyddio\u2019r wefan mewn modd a all achosi i\u2019r wefan gael ei hamharu, ei niweidio, ei gwneud yn llai effeithiol neu mewn modd fel bod effeithlonrwydd y wefan yn cael ei heffeithio mewn unrhyw fodd<\/p>\n<p>2.1.5 yn cytuno i beidio \u00e2 defnyddio\u2019r wefan mewn unrhyw fodd sy\u2019n tarfu ar neu yn torri ar hawliau unrhyw unigolyn neu gwmni (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, hawliau eiddo deallusol, hawliau cyfrinachedd neu breifatrwydd);<\/p>\n<p>2.1.6 cytuno i beidio \u00e2 chyhoeddi dolen hyperdestun i unrhyw ran o\u2019r wefan na cheisio cael mynediad heb ei awdurdodi i unrhyw ran neu gydran o\u2019r wefan; a<\/p>\n<p>2.1.7 cytuno pe bai gennych hawl, hawliad neu weithred yn erbyn unrhyw ddefnyddwyr yn deillio o ddefnydd y defnyddiwr hwnnw o\u2019r wefan, yna byddwch yn mynd ar \u00f4l hawliad neu weithred o\u2019r fath yn annibynnol ar a heb atebolrwydd i ni.<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li>INDEMNIAD<\/li>\n<\/ol>\n<p>Rwyt yn cytuno i fod yn gwbl gyfrifol am a\u2019n hindemnio ni yn llawn yn erbyn pob hawliad, cyfrifoldeb, difrod, colledion, costau a threuliau, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol, a ddioddefir gennym ni ac sy\u2019n codi o dorri unrhyw Amodau a Thelerau neu unrhyw ddeddfau, rheoliadau a rheolau eraill gennyt ti neu ein hasiantau (neu gynrychiolwyr) yn gweithredu ar dy rhan; neu unrhyw rwymedigaethau eraill sy\u2019n codi allan o dy defnydd o\u2019r Wefan, neu\u2019r defnydd gan unrhyw unigolyn arall sy\u2019n cyrchu at y Wefan gan ddefnyddio ein cyfrifiadur personol neu ein cyfrif mynediad at y rhyngrwyd. Rwyt hefyd yn ein hindemnio yn erbyn unrhyw hawliadau fod gwybodaeth neu ddeunydd yr ydwyt wedi ei gyflwyno i ni yn torri unrhyw ddeddf neu unrhyw hawliau trydydd parti (gan gynnwys heb gyfyngiad, hawliadau mewn perthynas \u00e2 difenwad, ymyrryd \u00e2 phreifatrwydd, torri cyfrinachedd, torri ar hawlfraint neu dorri ar unrhyw hawl i eiddo deallusol arall). Rydym yn cadw\u2019r hawl i amddiffyn a rheoli unrhyw hawliadau yn deillio o\u2019r uchod ac unrhyw faterion o\u2019r fath yn ymwneud ag indemnio. Rwyt yn cytuno y byddet yn cydweithredu\u2019n llawn \u00e2 ni mewn unrhyw amddiffyniad o\u2019r fath.<\/p>\n<ol start=\"4\">\n<li>EIN HAWLIAU<\/li>\n<\/ol>\n<p>4.1 Rydym yn cadw\u2019r hawl i:<\/p>\n<p>4.1.1 ddiwygio neu dynnu\u2019n \u00f4l dros dro neu\u2019n barhaol, y Wefan (neu unrhyw ran ohoni) gyda neu heb rybudd i ti ac rwyt yn cadarnhau na fyddwn yn gyfrifol i ti nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw ddiwygiad i\u2019r wefan neu dynnu\u2019r wefan yn \u00f4l, a\/neu,<\/p>\n<p>4.1.2 newid yr amodau a\u2019r telerau hyn o bryd i\u2019w gilydd, a thybir bod eich defnydd parhaol o\u2019r Wefan (neu unrhyw ran ohoni) yn dilyn newid o\u2019r fath yn gyfystyr \u00e2\u2019th bod yn derbyn newid o\u2019r fath. Daw unrhyw newidiadau o\u2019r fath i rym ar unwaith wedi eu postio, felly dy gyfrifoldeb di yw gwirio yn rheolaidd i benderfynu a yw\u2019r Amodau a\u2019r Telerau wedi eu newid. Os nad ydwyt yn cytuno i unrhyw newid i\u2019r Amodau a\u2019r Telerau yna rhaid i ti atal defnyddio\u2019r Wefan ar unwaith.<\/p>\n<p>4.2 Byddwn yn defnyddio ein hymdrechion rhesymol i gynnal y Wefan. Gall y Wefan newid o bryd i\u2019w gilydd. Ni fyddet yn gymwys am unrhyw iawndal oherwydd na allet ddefnyddio unrhyw ran o\u2019r Wefan neu oherwydd methiant, ataliad neu dynnu\u2019n \u00f4l y cyfan neu ran o\u2019r Wefan oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i\u2019n rheolaeth.<\/p>\n<ol start=\"5\">\n<li><b> CYSYLLTIADAU TRYDYDD PARTI<\/b><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mewn ymdrech i ddarparu mwy o werth i\u2019n Defnyddwyr, efallai y byddwn yn darparu dolennau i wefannau neu adnoddau eraill. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno nad ydym yn gyfrifol am argaeledd safleoedd neu adnoddau allanol o\u2019r fath, ac nid ydwyt yn cefnogi ac nid ydwyt yn gyfrifol am nac yn atebol yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, am arferion preifatrwydd neu gynnwys (gan gynnwys cynnwys sy\u2019n cam-gynrychioli neu sy\u2019n ddifr\u00efol) safleoedd o\u2019r fath, gan gynnwys (heb gyfyngiad) unrhyw hysbysebu, cynhyrchion neu ddeunyddiau neu wasanaethau eraill ar neu sydd ar gael o wefannau neu adnoddau o\u2019r fath, nac unrhyw ddifrod, colled neu drosedd a achosir neu yr honnir sydd wedi ei achosi gan neu mewn cysylltiad \u00e2\u2019r defnydd neu ddibyniaeth ar unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau o\u2019r fath sydd ar gael ar safleoedd neu adnoddau allanol o\u2019r fath.<\/p>\n<ol start=\"6\">\n<li><b> MONITRO<\/b><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae gennym yr hawl ond nid y rhwymedigaeth, i fonitro unrhyw weithgaredd a chynnwys sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r wefan. Gallwn ymchwilio i unrhyw adroddiad ynglyn \u00e2 thorri\u2019r Amodau a\u2019r Telerau hyn neu gwynion eraill a chymryd unrhyw gamau a dybiwn sy\u2019n briodol (a all gynnwys, ond nad yw\u2019n cael ei gyfyngu i, gyhoeddi rhybuddion, atal, terfynu neu atodi amodau wrth eich mynediad at\/neu ddileu unrhyw ddeunyddiau ar y Wefan).<\/p>\n<ol start=\"7\">\n<li><b> DY DDATA<\/b><\/li>\n<\/ol>\n<p>7.1 Rydym yn parchu dy Ddata Personol ac yn addo cydymffurfio \u00e2 deddfwriaeth Gwarchod Data cymwys yr UE a\u2019r DU sydd mewn grym o\u2019i bryd i\u2019w gilydd.<\/p>\n<p>7.2 Dylet fod yn ymwybodol:<\/p>\n<p>7.2.1 os gofynnir inni gan yr heddlu neu unrhyw awdurdod rheoleiddio neu lywodraeth arall sy\u2019n ymchwilio i weithgareddau yr amheuir sy\u2019n anghyfreithlon, neu ar \u00f4l derbyn gorchymyn llys, i ddarparu eich Data Personol a\/neu wybodaeth yn ymwneud \u00e2\u2019th gweithgareddau wrth i ti ddefnyddio\u2019r Wefan byddwn yn gwneud hynny; a,<\/p>\n<p>7.2.2 os cytunat, drwy ddewis y blychau priodol ar y ffurflenni perthnasol, gallwn werthu dy manylion cyswllt a\u2019th manylion am hoffterau i drydydd parti i\u2019w galluogi i anfon gwybodaeth atat y credant fydd o ddiddordeb i ti. Gellir lleoli\u2019r trydydd parti hyn mewn gwledydd y tu allan i\u2019r DU nad oes ganddynt ddeddfau i warchod dy Data Personol. Darperir manylion am y trydydd parti a\u2019r gwledydd sy\u2019n derbyn eich Data Personol pan wneir cais am hynny.<\/p>\n<p>7.3 Rydym yn cadw\u2019r hawl yn ein doethineb rhesymol i ddatgelu manylion am dy ddefnydd o\u2019r Wefan mewn perthynas ag unrhyw achos llys neu unrhyw fygythiad o achos llys mewn cysylltiad \u00e2\u2019th defnydd, neu\u2019r defnydd o unrhyw un o dan dy rheolaeth, o\u2019r Wefan boed hynny mewn cysylltiad \u00e2\u2019r materion a gyflwynwyd yn yr Amodau a\u2019r Telerau hyn neu fel arall.<\/p>\n<p>7.4 Mae TheSprout yn gweithio fel gwasanaeth cyfrinachol i chi fel pobl ifanc. Mae hyn yn golygu beth bynnag byddech yn ddweud ar TheSprout yn aros yn ddienw ac ar gyfer TheSprout yn unig. Er hynny, bydd yna adegau, yn \u00f4l y gyfraith, mae&#8217;n rhaid i ni drosglwyddo&#8217;r wybodaeth a rowch i ni, os maent yn golygu fod chi, neu rywun arall, mewn risg sylweddol o niwed. Mae hyn yn cael ei enw&#8217;n &#8216;amddiffyn plant&#8217;.<\/p>\n<p>Os yw hyn yn wir, byddwn yn ceisio cysylltu \u00e2 ti i adael i ti wybod ein bod yn pasio&#8217;r wybodaeth ymlaen i sefydliadau eraill a all dy gefnogi. Mae angen i ni wneud hyn, gydag dy ganiat\u00e2d neu beidio. Er hynny, byddwn ni&#8217;n cadw mewn cysylltiad gyda ti i adael i ti wybod beth rydym yn wneud.<\/p>\n<p>7.5 Cer yn \u00f4l i waelod pob tudalen i adolygu ein Polisi Preifatrwydd, sy\u2019n ffurfio rhan o\u2019r Amodau a\u2019r Telerau hyn.<\/p>\n<ol start=\"8\">\n<li><b> EIDDO DEALLUSOL A HAWL I DDEFNYDDIO<\/b><\/li>\n<\/ol>\n<p>8.1 Rwyt ti\u2019n cydnabod ac yn cytuno y bydd yr holl hawlfraint, nodau masnach a phob hawliau eiddo deallusol eraill yn yr holl ddeunydd neu gynnwys a gyflenwir fel rhan o\u2019r Wefan (gan gynnwys heb ofyniad, testun, delweddau, tudalennau gwe, sain, meddalwedd (gan gynnwys cod, rhyngwyneb a strwythur gwefan), fideo, ffotograffau a delweddau graffigol, ac edrychiad a theimlad y dyluniad a\u2019i grynhoad) yn parhau bob amser yn ein dwylo ni neu ein trwyddedwyr. Caniateir i ti ddefnyddio\u2019r deunydd hwn yn unig fel yr awdurdodwyd yn benodol gennym ni ac eithrio fel y darparwyd yn yr Amodau a\u2019r Telerau hyn. Nid yw defnyddio\u2019r Wefan hon yn rhoi unrhyw hawl, teitl, diddordeb na thrwydded i ti i unrhyw eiddo deallusol o\u2019r fath y gellir cyrchu ato ar y Wefan. Ac eithrio fel y darperir yn yr Amodau a\u2019r Telerau hyn, gwaharddir unrhyw ddefnydd neu atgynhyrchiad o\u2019r eiddo deallusol.<\/p>\n<p>8.2 Rwyt yn cydnabod ac yn cytuno bod y deunydd a\u2019r cynnwys a gynhwysir o fewn y Wefan ar gael ar gyfer dy ddefnydd personol, anfasnachol ar y sail ganlynol:<\/p>\n<p>8.2.1 gallet lawrlwytho deunydd a chynnwys o\u2019r fath i un dreif caled cyfrifiadurol yn unig; ac<\/p>\n<p>8.2.2 ni chaiff unrhyw destun, dogfennau, graffeg na chynnwys arall ar y Wefan hon eu diwygio mewn unrhyw fodd; ac<\/p>\n<p>8.2.3 ni ddefnyddir unrhyw graffeg ar y Wefan hon ar wah\u00e2n i\u2019r testun sy\u2019n mynd gydag ef; ac<\/p>\n<p>8.2.4 mae ein rhybudd hawlfraint a\u2019r rhybudd caniat\u00e2d hwn yn ymddangos ym mhob copi.<\/p>\n<p>8.3 Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o\u2019r deunydd a chynnwys y Wefan. Rydych yn cytuno i beidio \u00e2 (ac yn cytuno i beidio \u00e2 chynorthwyo na hwyluso unrhyw drydydd parti i) gop\u00efo, atgynhyrchu, trawsyrru, cyhoeddi, dangos, dosbarthu, defnyddio\u2019n fasnachol na chreu gweithiau yn deillio o ddeunydd a chynnwys o\u2019r fath.<\/p>\n<p>8.4 Os ydwyt yn torri unrhyw rai o\u2019r Amodau a\u2019r Telerau hyn, mae dy ganiat\u00e2d i ddefnyddio\u2019r Wefan hon yn dirwyn i ben yn awtomatig a rhaid i ti ddinistrio unrhyw ddetholiadau sy\u2019n cael eu lawrlwytho neu eu hargraffu o\u2019r Wefan hon ar unwaith.<\/p>\n<ol start=\"9\">\n<li><b> CYFRANIADAU AT TheSprout.co.uk<\/b><\/li>\n<\/ol>\n<p>Lle gwahoddir ti i gyflwyno unrhyw gyfraniad thesprout.co.uk (gan gynnwys unrhyw destun, ffotograffau, graffeg, fideo neu sain) rwyt yn cytuno, drwy gyflwyno dy gyfraniad, i roi i thesprout.co.uk hawl a thrwydded am byth, heb freindal, anghynhwysol, is-drwyddedadwy i ddefnyddio, atgynhyrchu, diwygio, mabwysiadu, cyhoeddi, cyfieithu, creu gweithiau deilliannol o, dosbarthu, perfformio, chwarae, sicrhau ei fod ar gael i\u2019r cyhoedd ac ymarfer pob hawlfraint a hawliau cyhoeddusrwydd mewn perthynas \u00e2\u2019th cyfraniad ledled y byd a\/neu i gynnwys eich cyfraniad mewn gweithiau eraill mewn unrhyw gyfryngau sy\u2019n wybyddus yn awr neu a ddatblygwyd yn ddiweddarach ar gyfer tymor llawn unrhyw hawliau a all fodoli yn eich cyfraniad, ac yn unol \u00e2 chyfyngiadau preifatrwydd a gyflwynir ym Mholisi Preifatrwydd CLICarlein.co.uk. Os nad ydych yn dymuno rhoi\u2019r hawliau a gyflwynir uchod i thesprout.co.uk, paid \u00e2 chyflwyno dy gyfraniad i thesprout.co.uk.<\/p>\n<p>Drwy gyflwyno dy gyfraniad tuag at thesprout.co.uk rwyt ti\u2019n:<\/p>\n<p>9.1. yn gwarantu bod eich cyfraniad:<\/p>\n<p>9.1.1. yn waith gwreiddiol chi eich hun a bod gennych yr hawl i sicrhau ei fod ar gael i thesprout.co.uk i\u2019r holl ddibenion a nodwyd uchod;<\/p>\n<p>9.1.2 nad yw\u2019n ddifr\u00efol, a<\/p>\n<p>9.1.3 nad yw\u2019n torri unrhyw ddeddf; a<\/p>\n<p>9.2. yn indemnio thesprout.co.uk yn erbyn pob ffi cyfreithiol, iawndal a threuliau eraill y gellir eu gwario gan thesprout.co.uk o ganlyniad i dorri\u2019r gwarant uchod; ac<\/p>\n<p>9.3 yn ildio unrhyw hawliau moesol yn dy gyfraniad i bwrpas eu cyflwyno i gyhoeddiad ar thesprout.co.uk ac i\u2019r pwrpasau a nodwyd uchod.<\/p>\n<ol start=\"10\">\n<li><b> HYSBYSIADAU<\/b><\/li>\n<\/ol>\n<p>10.1 Gallwch anfon hysbysiadau atom o dan neu mewn cysylltiad \u00e2\u2019r Amodau a\u2019r Telerau hyn:<\/p>\n<p>10.1.1 drwy\u2019r post i: TheSprout, ProMo-Cymru, Unit 12, Royal Stuart Workshops, Adelaide Place, Cardiff, CF10 5BR<\/p>\n<p>10.2 Oherwydd nad yw prawf o anfon yn sicrhau ein bod wedi derbyn eich hysbysiad, mae\u2019n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi derbyn cydnabyddiaeth oddi wrthym ni a anfonir o fewn 3 diwrnod gwaith o\u2019r amser y byddwn wedi ei dderbyn, a rhaid i chi gadw\u2019r dderbynneb.<\/p>\n<ol start=\"11\">\n<li>CYFYNGU AR RWYMEDIGAETH<\/li>\n<\/ol>\n<p>11.1 ER Y BYDDWN YN DEFNYDDIO POB YMDRECH RESYMOL I DDILYSU CYWIRDEB UNRHYW WYBODAETH A RODDWN AR Y WEFAN, NID YDYM YN RHOI UNRHYW WARANTAU, BOED HYNNY\u2019N BENODOL NAC YMHLYG MEWN PERTHYNAS \u00c2\u2019I CHYWIRDEB.<\/p>\n<p>11.2 Darperir y wefan ar sail \u201cfel ag y mae\u201d ac \u201cfel mae ar gael\u201d heb unrhyw gynrychiolaeth na chefnogaeth. Oni bai y nodir mewn amodau a thelerau ar wah\u00e2n sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chynnyrch neu wasanaeth arbennig, nid ydym yn gwneud unrhyw warant o unrhyw fath, boed hynny\u2019n benodol nac ymhlyg mewn perthynas \u00e2\u2019r wefan, neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwytho meddalwedd am ddim) gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i, warantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, ffitrwydd ar gyfer pwrpas arbennig, peidio \u00e2 thorri amodau, cydnawsedd, diogelwch, cywirdeb, amod neu gyflawnder, neu unrhyw warant arall sydd ymhlyg yn deillio o ddelio neu ddefnyddio neu fasnachu.<\/p>\n<p>11.3 Oni bai y nodwyd mewn amodau a thelerau ar wah\u00e2n sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chynnyrch neu wasanaeth arbennig, nid ydym yn rhoi unrhyw warant fod y Wefan neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y Wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwytho meddalwedd am ddim) yn bodloni eich gofynion, neu na fyddant yn rhai na amharir arnynt, yn amserol, yn ddiogel neu yn rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan neu\u2019r serfiwr sy\u2019n sicrhau ei bod ar gael neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y Wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau o feddalwedd am ddim) yn rhydd o firysau neu namau neu eu bod yn gweithio\u2019n llawn, yn gywir neu yn ddibynadwy. Ni fyddwn yn gyfrifol nac yn atebol i chi am golli unrhyw gynnwys neu ddeunydd o ganlyniad i lwytho i neu lawrlwytho o\u2019r Wefan.<\/p>\n<p>11.4 Heblaw am unrhyw ddarpariaeth arall yn yr Amodau a\u2019r Telerau, ni fydd unrhyw beth yma yn cyfyngu ar eich hawliau fel defnyddiwr o dan ddeddf Lloegr.<\/p>\n<p>11.5 Rydych yn cydnabod na allwn sicrhau ac felly na fyddwn mewn unrhyw fodd yn gyfrifol am ddiogelwch neu breifatrwydd y Wefan ac unrhyw wybodaeth a ddarperir i neu a gymerir o\u2019r Wefan gennych chi.<\/p>\n<p>11.6 Ni fyddwn yn gyfrifol mewn contract, camwedd neu fel arall os cewch golled neu ddifrod yn gysylltiedig \u00e2\u2019r Wefan drwy ddolen hyperdestun trydydd parti.<\/p>\n<p>11.7 Ni fyddwn yn gyfrifol, mewn contract, camwedd (gan gynnwys, heb gyfyngiad, esgeulustod), cyn contract neu gynrychiolaeth arall (heblaw camgynrychiolaeth twyllodrus) neu fel arall allan o neu mewn cysylltiad \u00e2\u2019r Wefan neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y Wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau o feddalwedd am ddim) ac:<\/p>\n<p>11.7.1 unrhyw golledion economaidd (gan gynnwys heb gyfyngiad colli refeniw, elw, contractau, busnes neu gynilion tybiedig); neu<\/p>\n<p>11.7.2 colli unrhyw ewyllys da neu enw da; neu<\/p>\n<p>11.7.3 unrhyw golledion arbennig neu anuniongyrchol neu ganlyniadol; beth bynnag p\u2019run ai yw unrhyw golledion o\u2019r fath o fewn ystyriaeth y naill neu\u2019r llall ohonom ar y dyddiad y digwyddodd y digwyddiad a achosodd y golled.<\/p>\n<p>11.8 Ni fydd unrhyw beth yn yr Amodau a\u2019r Telerau yn allgau nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu niwed personol yn deillio o esgeulustod neu esgeulustod ein gweision, asiantau neu weithwyr.<\/p>\n<ol start=\"12\">\n<li><b> DATGYSYLLTU <\/b><\/li>\n<\/ol>\n<p>Os tybir bod unrhyw ran o\u2019r Amodau a\u2019r Telerau yn anghyfreithlon, yn ddi-rym neu am unrhyw reswm yn rhai na ellir eu gorfodi, yna tybir y gall y ddarpariaeth honno gael ei dadgysylltu o\u2019r Amodau a\u2019r Telerau hyn ac ni fydd yn effeithio ar ddilysrwydd a gallu i orfodi unrhyw rai o\u2019r darpariaethau sy\u2019n weddill yn yr Amodau a\u2019r Telerau hyn.<\/p>\n<ol start=\"13\">\n<li>Ni fydd unrhyw beth yn cael ei ystyried fel ildiad hawl gennym ni o unrhyw doriad blaenorol neu olynol ar unrhyw ddarpariaeth yn yr Amodau a\u2019r Telerau hyn.<\/li>\n<\/ol>\n<ol start=\"14\">\n<li><b> CYTUNDEB CYFAN<\/b><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae\u2019r Amodau a\u2019r Telerau hyn (fel y\u2019u diwygiwyd o bryd i\u2019w gilydd), gan gynnwys y Polisi Preifatrwydd, yn ffurfio\u2019r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas \u00e2\u2019r deunydd yr ymdriniwyd ag ef, ac mae\u2019n disodli unrhyw gytundebau, trefniadau, ymgynghoriadau neu argymhellion blaenorol, yn ysgrifenedig neu ar lafar, rhyngoch chi a ni mewn perthynas \u00e2 materion o\u2019r fath. Ni fydd unrhyw eglurhad llafar neu wybodaeth lafar a roddir gan y naill neu\u2019r llall ohonom yn newid dehongliad yr Amodau a\u2019r Telerau hyn. Rydych yn cadarnhau, wrth gytuno i dderbyn yr Amodau a\u2019r Telerau hyn, nad ydych wedi dibynnu ar unrhyw gynrychiolaeth ac eithrio i\u2019r graddau y mae hyn wedi ei wneud yn benodol yn yr Amodau a\u2019r Telerau hyn, ac rydych yn cytuno na fydd gennych unrhyw ateb mewn perthynas ag unrhyw gamgynrychiolaeth nad yw wedi ei gynnwys o fewn yr Amodau a\u2019r Telerau hyn ac eithrio na fydd eich cytundeb a gynhwysir yn y ddarpariaeth hon yn berthnasol mewn perthynas ag unrhyw gamgynrychiolaeth twyllodrus p\u2019run ai a gafodd camgynrychiolaeth o\u2019r fath ei gynnwys o fewn yr Amodau a\u2019r Telerau hyn ai peidio. Ni fydd y methiant gennym ni i ymarfer neu orfodi unrhyw hawl neu ddarpariaeth yn yr Amodau a\u2019r Telerau hyn yn ffurfio ildiad i hawl neu ddarpariaeth o\u2019r fath.<\/p>\n<ol start=\"15\">\n<li><b> Y DDEDDF<\/b><\/li>\n<\/ol>\n<p>Llywir yr Amodau a\u2019r Telerau yn llwyr gan ac fe\u2019u dehonglir yn unol \u00e2 deddfau Cymru a Lloegr y bydd gan eu Llysoedd awdurdodaeth anghynhwysol mewn unrhyw anghydfod, ac eithrio fod gennym yr hawl, yn \u00f4l ein disgresiwn, i ddechrau a chyflwyno achosion mewn awdurdodaethau eraill.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Polisi Preifatrwydd Mae preifatrwydd ein defnyddwyr yn bwysig i ni ac rydym yn gofalu ein bod yn ei ddiogelu. O dan Ddeddf Gwarchod Data 1998, mae gennym oblygiadau cyfreithiol tuag&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-80","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/80","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=80"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/80\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":417,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/80\/revisions\/417"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=80"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}