Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghaerdydd
Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn cynnig help, cyngor a chefnogaeth i deuluoedd yng Nghaerdydd. Maent yn tynnu gwasanaethau gwahanol sydd yn gallu bod yn gymorth i deuluoedd at ei gilydd. Byddant yn edrych ar yr hyn sydd ei angen arnat ti, ac yn awgrymu’r cymorth cywir ar yr amser cywir i roi rheolaeth i ti o dy fywyd. Yma edrychwn ar y gwasanaethau ariannir gan Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghaerdydd.
**Mae hwn yn rhestr gyfoes o’r gwasanaethau ariannir gan Teuluoedd yn Gyntaf sydd ar gael yng Nghaerdydd. Mae newidiadau wedi bod i’r gwasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf felly mae posib bydd yna newidiadau neu ychwanegiadau i’r rhestr yma. Cadwa lygaid yma am unrhyw newidiadau.**
Am wybodaeth gyfoes, cyngor a chefnogaeth am wasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf cysyllta â’r llinell gymorth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd am ddim ar 03000 133 133.
Porth Teuluoedd yn Gyntaf – Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd
Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd
- Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i sicrhau bod teuluoedd yn derbyn y gwasanaeth cywir.
- Cysylltwch 03000 133 133 o 9yb-5yh Llun i Gwener (4:30yh ar ddydd Gwener)
- Siaradwch â rhywun am gefnogaeth, cyngor a gwybodaeth ar y gwasanaethau sydd yn agored i chi
- Cyfarfodydd wyneb i wyneb i deuluoedd sydd angen mwy o amser neu gefnogaeth
- Eich helpu i wneud y newidiadau sydd ei angen yn eich bywyd
- Yn gweithio gyda: Teuluoedd gydag o leiaf un plentyn dan 18 oed neu yn feichiog
- Gwefan: Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdyddd
Teuluoedd yn Gyntaf – Cefnogaeth Rhianta
Gwasanaeth Cymorth Gwirfoddol Blynyddoedd Cynnar i Deuluoedd – Home-Start Caerdydd
- Cefnogaeth un i un yn y cartref wedi’i arwain yn wirfoddol
- Edrych ar beth sy’n creu rhwystrau i rieni/gofalwyr plant/pobl ifanc
- Cymorth i deuluoedd i gael mynediad i wasanaethau a sicrhau eu bod yn cael mynediad i apwyntiadau iechyd
- Yn gweithio gyda: Teuluoedd gydag o leiaf un plentyn o dan 5 oed
- Gwefan: Home-Start Caerdydd
Gwasanaeth Rhianta – Cyngor Caerdydd
- Darparu rhaglenni rhianta un i un a grŵp wedi’i selio ar anghenion e.e. Gro-Brain, Rhaglen Magwraeth Rhiant a Chryfhau Teuluoedd
- Yn gweithio gyda: Rhieni plant o enedigaeth hyd at 18 oed neu’n feichiog
- Gwefan: Gwefan Cyngor Caerdydd
Dieteteg Iechyd Cyhoeddus – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Hyfforddi staff ac aelodau’r gymuned i ddarparu Cyrsiau Maetheg Lefel 1 i rieni/pobl ifanc
- Dysgu sgiliau i staff iddynt gael rhannu negeseuon bwyd a maetheg
- Yn gweithio gyda: Plant 0-25 oed a’u rhieni, merched beichiog, pobl ifanc bregus (yn derbyn gofal, gofalwyr ifanc)
- Gwefan: Tîm Dieteteg Iechyd Cyhoeddus
Cymorth i Ferched Caerdydd – RISE
- Yn gweithio gyda merched sydd yn profi trais tuag at ferched, camdriniaeth yn y cartref a thrais rhywiol
- Gweithio trwy’r problemau gyda Chynghorydd Personol Annibynnol wedi’i gyfeirio trwy R.I.S.E
- Yn gweithio gyda: Merched sydd yn feichiog neu gyda phlant hyd at 5 oed
- Gwefan: Cymorth i Ferched Caerdydd
Teuluoedd yn Gyntaf – Gwasanaethau Cefnogi Ieuenctid
Gwasanaeth Perthnasau Iach – Tîm Ymestyn Allan Iechyd Rhywiol YMCA Caerdydd (SHOT)
- 1:1 – Gwasanaeth un i un sydd yn cynnig gwasanaeth iechyd rhywiol a pherthnasau arbenigol, cyfrinachol ac wedi’i deilwro i bobl ifanc
- Ysgolion – Cefnogi ysgolion gyda hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor i gefnogi pobl ifanc gyda’u hanghenion iechyd rhywiol a pherthnasau
- Darparu gwybodaeth mewn ffurf ryngweithiol am ymddygiad sy’n ymwneud â chymryd risgiau a chadw’n ddiogel. Addas ar gyfer blynyddoedd 7-13.
- Cerdyn-C – Dosbarthu condomau am ddim i bobl ifanc 13-25 trwy Gynllun Cerdyn-C Caerdydd. Darparu cyngor a chefnogaeth perthnasau ac iechyd rhywiol
- Yn gweithio gyda: Pobl ifanc 11-25 oed yn bersonol (13-25 gyda’r Cerdyn-C) a’u teuluoedd os yw’n fuddiol
- Gwefan: YMCA Caerdydd
Cefnogaeth Ieuenctid Cyn 16 – Gwasanaeth Ieuenctid, Addysg
- Cefnogaeth wedi’i dargedu yn arbennig i bobl ifanc 11-16 oed yng Nghaerdydd
- Cefnogaeth mentora i leihau’r perygl o bobl ifanc ddim yn mynychu addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth
- Yn gweithio gyda: Pobl ifanc 11-16 sydd wedi’u hadnabod drwy asesiad
- Gwefan: Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd
Cefnogaeth Ieuenctid Ôl 16 – Gwasanaeth Ieuenctid, Addysg
- Paratoi unigolion ar gyfer addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth
- Darparu cefnogaeth ac ymyriad
- Lleihau’r perygl o bobl ifanc ddim yn mynd i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth
- Yn gweithio gyda: Pobl ifanc 16-19 sydd wedi’u hadnabod gyda rhwystr i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth
- Gwefan: Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd
Mentoriaid Ifanc Grassroots – Gwasanaeth Ieuenctid, Addysg
- Cefnogaeth mentor ieuenctid un i un wedi’i dargedu
- Yn gweithio gyda: Rhai 16-25 oed wedi’u cyfeirio at y gwasanaeth
- Gwefan: Grassroots
Gweithwyr Ieuenctid Cefnogol Grassroots – Gwasanaeth Ieuenctid, Addysg
- Cefnogaeth gwasanaeth ieuenctid mynediad agored mewn lleoliad yng nghanol y ddinas
- Yn gweithio gyda: Pobl ifanc 16-25 oed
- Gwefan: Grassroots
EOTAS – Gwasanaeth Ieuenctid, Addysg
- Cefnogaeth i bobl ifanc sydd mewn addysg heblaw am yr ysgol (EOTAS) i wneud trosiad positif ar ôl troi’n 16 oed.
- Yn gweithio gyda: Pobl ifanc 15-17 mewn EOTAS
- Gwefan: Tudalen Ysgolion a Dysgu Cyngor Caerdydd
Gwasanaeth Cyfryngu a Chyngor i Deuluoedd – Llamau
- Cyngor ac asesiad tai i rai 16-21 oed
- Cyfryngu i deuluoedd a chyngor hawliau lles
- Gwasanaeth cyfryngu i bobl ifanc 14+ oed a’u teuluoedd
- Yn gweithio gyda: 14 – 21 oed a’u teuluoedd
- Gwefan: Llamau
Teuluoedd yn Gyntaf – Gwasanaeth Llesiant Teulu
Gwasanaeth Llesiant Teulu – Barnardo’s Cymru
- Cefnogi rhieni/gofalwyr plant a phobl ifanc gydag iechyd meddwl emosiynol a meddyliol a llesiant
- Cynnig cyngor, therapi chwarae, ymyriad therapiwtig a gwaith grŵp llesiant
- Yn gweithio gyda: Teuluoedd ac aelodau o’r teulu sydd yn byw yn ardal Caerdydd (neu gyda phlant yn byw yng Nghaerdydd) sydd angen cefnogaeth gydag iechyd emosiynol a meddyliol a llesiant.
- Gwefan: Gwasanaeth Llesiant Teulu Caerdydd
Teuluoedd yn Gyntaf – Gwasanaeth Llesiant Teulu
Tîm Anabledd o Amgylch y Teulu – Gweithredu Dros Blant
- Cyfeirio at wybodaeth a chyngor
- Ymarferwr Cefnogi Teulu yn cynnig cefnogaeth
- Sesiynau galw heibio – anghenion cefnogaeth un tro a cheisiadau grantiau elusen fach
- Sesiynau un i un – sesiwn rhianta galw heibio
- Boreau coffi – grŵp o rieni yn cyfarfod bob pythefnos i rannu profiadau a chefnogaeth
- Rhaglen magwraeth i rieni – rhaglen 11 wythnos yn edrych ar anghenion rhieni gyda phlentyn anabl
- Yn gweithio gyda: Pobl ifanc 0-25 a’u rhieni
- Gwefan: Gweithredu Dros Blant Caerdydd
Cefnogaeth Rhianta a Sgiliau Byw’n Annibynnol – Barnardo’s Cymru
- Cefnogaeth rhianta i deuluoedd gyda phlant anabl a sgiliau byw’n annibynnol ar gyfer pobl ifanc anabl
- 1:1 – Cefnogaeth rhianta. Ymweliadau cartref un i un yn y cartref yn edrych ar faterion ymddygiad heriol mewn plant 6+
- Rhaglen Cygnet – Rhaglen i rieni/gofalwyr plant/pobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o Awtistiaeth. Wedi’i greu i ddeall Awtistiaeth, y ffordd mae pobl ifanc gydag Awtistiaeth yn profi’r byd a beth sydd yn gyrru eu hymddygiad
- Sgiliau byw’n annibynnol – I rai dros 14 oed sydd angen datblygu sgiliau annibyniaeth benodol. Un i un neu mewn grŵp
- Yn gweithio gyda: Plant a phobl ifanc 6-25 oed
- Gwefan: Barnardo’s Caerdydd a’r Fro
Darpariaeth Ieuenctid Cynhwysol Cathays
- Grŵp ieuenctid wedi’i gynnal ar gyfer pobl ifanc gydag anableddau i gael cymysgu gyda chyfoedion yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau
- Clwb ieuenctid nos Wener a darpariaeth gwyliau yn ystod gwyliau’r ysgol (nid oes trafnidiaeth)
- Yn gweithio gyda: 11-25 oed
- Gwefan: Darpariaeth Ieuenctid Cynhwysol Cathays
Teuluoedd yn Gyntaf – Arall
Credydau Amser – Tempo
- Gwobrwyo credydau amser i bobl sydd yn rhoi amser i wasanaethau neu grwpiau lleol
- Gwobrwyir un credyd fel diolch am bob awr rhoddir
- Gellir gwario credydau ar ddigwyddiadau a gweithgareddau hamdden a hyfforddiant darparir gan y rhwydwaith
- Gall unrhyw wasanaeth ariannir gan Teuluoedd yn Gyntaf gael mynediad i gredydau amser a’i gynnig fel ffordd i recriwtio a chadw gwirfoddolwyr
- Yn gweithio gyda: Holl wasanaethau ac unigolion
- Gwefan: wearetempo.org