Site icon Sprout Cymraeg

Taflu Goleuni ar Ferched: Jan Morris

Mae Taflu Goleuni ar Ferched yn rhan o’r ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd. Ei fwriad yw amlygu merched sydd yn ysbrydoledig ac yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth yn ôl pobl ifanc Caerdydd.

Ysgrifennwyd yr erthygl yma gan Tomos, 18, o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd.

Manylion Jan Morris

Ganwyd Jan Morris ar 2il Hydref 1926 a bu farw yn 94 oed ar 20fed Tachwedd 2020 yng Nghymru.

Pam bod Jan Morris yn enwog

Mae Jan Morris yn enwog fel hanesydd, awdur ac ysgrifennwr teithio poblogaidd Cymraeg.

Pam bod Jan Morris yn ysbrydoliaeth i ti?

Roedd Jan Morris yn un o’r ysgrifenwyr gorau o’i hamser. Mae’n ysbrydoliaeth i mi gan ei bod wedi gwneud ei swydd mewn ffordd rwyf innau’n awyddus i wneud pan rwyf yn hŷn.

Pam bod Jan Morris yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth?

Roedd gan Jan fywyd diddorol ac ysbrydoledig iawn!

Pan roedd yn gweithio i The Times yn 1953 ysgrifennodd darn unigryw iawn am deithio gyda Edmund Hillary i wersyll cychwyn Everest i fod yn dyst i ymgais hanesyddol i fynd i’r copa. Hi oedd un o’r bobl gyntaf i gyrraedd copa Everest!

Roedd Jan yn cael ei galw’n ‘John’ gynt. Fel plentyn ifanc penderfynodd nad oedd wedi cyfarparu’n dda iawn i fod yn fachgen. Yn eiconig iawn, roedd yn mynychu gwersi addysg mewn “ffrogiau gwyn llaes” ac yn byw bywyd hyfryd fel merch drawsrywiol.

Cydnabod Jan – Cerdd Acrostig gan Tomos

(Cedwir y gerdd hon yn yr iaith ysgrifennwyd yn wreiddiol i gadw’r patrwm acrostig)

Joyful in her nature

Always amazing

Nonsensical yet as clear as crystal

—–

Marvellously indifferent

Over-expressive, at times

Royally remarkable

Rich in zeal

Instrumental to our future

Straight in our past

Gwybodaeth berthnasol

Am wybodaeth bellach am y grŵp ymgyrchu, ac i ddarllen mwy o gynnwys yr ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd, clica yma.

Exit mobile version