Mae Taflu Goleuni ar Ferched yn rhan o’r ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd. Ei fwriad yw amlygu merched sydd yn ysbrydoledig ac yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth yn ôl pobl ifanc Caerdydd.
Ysgrifennwyd yr erthygl yma gan Hallie, person ifanc o Gaerdydd, mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.
Bywyd Cynnar Betty Campbell
Ganwyd Betty Campbell yn Butetown, Caerdydd ar 6ed Tachwedd 1934. Magwyd mewn cartref tlawd ond bu’n gweithio’n galed iawn yn yr ysgol ac roedd yn un o’r rhai gorau yn ei dosbarth. Enillodd ysgoloriaeth i astudio yn Ysgol Uwchradd Genethod Lady Margaret gyda’r gobaith o ddod yn athrawes – breuddwyd ers iddi fod yn ferch ifanc iawn.
Yn yr ysgol nid oedd un o’r athrawon yn gefnogol iawn iddi, gan ddweud y byddai’n anodd iawn i ferch du o gefndir dosbarth gweithiol i oresgyn ei phroblemau. Er y digalondid yma a’r heriau y daw o’i chefndir, dosbarth, hil, rhyw a’r ffaith ei bod yn feichiog yn 17 oed, aeth Betty yn ei blaen i gyrraedd ei huchelgeisiau.
Yn fam i dri o blant, cofrestrodd Betty yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Caerdydd (bellach yn Brifysgol Fetropolitan Caerdydd) yn 1960, yn 1 o 6 merch i gael eu derbyn.
Gyrfa Betty Campbell
Ar ôl graddio dechreuodd ei swydd gyntaf mewn ysgol yn Llanrhymni. Yn fuan wedyn dychwelodd Betty i’w thref enedigol o Butetown yn gweithio yn Ysgol Gynradd Mount Stuart, lle bu’n dysgu am 28 o flynyddoedd. Yn 1970 daeth Betty yn brifathro du cyntaf Cymru gyfan. Roedd yn ymdrechu i ddysgu’r plant am hiliaeth, hanes du, caethwasiaeth ac apartheid, yn ymestyn yr addysg yma i’w cymuned yn hwyrach ymlaen.
Yn dilyn ei gyrfa dysgu daeth Betty yn rhan o wleidyddiaeth. Roedd yn gynghorydd yng Nghyngor Dinas Caerdydd rhwng 1991 a 1995 yn cynrychioli Butetown. Yna roedd yn gynghorydd annibynnol i Butetown yng Nghyngor Caerdydd o 1999 i 2004. Daeth yn aelod o bwyllgor ymgynghorol hil y Swyddfa Gartref ac yn aelod o’r Comisiwn Cydraddoldeb Hil!
Pam bod Betty Campbell yn enwog?
Mae Betty Campbell yn arwr Cymraeg cudd, sydd yn cael ei hadnabod yn bennaf am fod yn weithredydd cymunedol a phrifathro du cyntaf Cymru. Cafodd ei gwobrwyo â MBE yn 2003 am ei gwasanaeth i addysg a bywyd cymunedol.
Bu farw Betty Campbell yn Butetown yn 82 oed ar 23 Hydref 2017. Yn 2015, 2 flynedd cyn ei marwolaeth, derbyniodd Campbell wobr cyflawniad bywyd gan grŵp Aelodau Du Unison Cymru, am ei chyfraniad i hanes du ac addysg Cymru.
Pam bod Betty Campbell yn ysbrydoliaeth i ti?
Roedd Betty yn aml yn clywed nad oedd yn ddigon da ac y wynebu sawl rhwystr ar ei siwrne, o’i hathro i rieni’r disgyblion! Er hynny, defnyddiodd ei llais a’i llwyfan i godi ymwybyddiaeth o hiliaeth ac i wella addysg ei chymuned ar faterion cydraddoldeb hil.
Mae uchelgais Betty i ddilyn ei breuddwyd er yr helbul a’r hiliaeth yn ysbrydoledig.
Gwybodaeth berthnasol
Os hoffech ddangos parch i Betty Campbell, bydd cerflun ohoni yn cael ei ddatgelu ar 16 Medi 2021 o flaen adeilad newydd yr HMRC yn 6 Sgwâr Canolog, Caerdydd.
Am wybodaeth bellach am y grŵp ymgyrchu, ac i ddarllen mwy o gynnwys yr ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd, clica yma.