Site icon Sprout Cymraeg

Sut Mae Merched Ifanc yn Canfod Rhagolygon Am Yrfa?

Yn ei 25ain flwyddyn, mae Chwarae Teg yn edrych tuag at y dyfodol. Rydym eisiau clywed gan ferched ifanc ledled Cymru am eu cynlluniau gyrfa a chael gwybod am eu gweithle delfrydol!

Ers sefydlu Chwarae Teg, mae gwelliant mawr wedi bod i’r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth rhyw, diolch i ymdrechion parhaus llawer o bobl. Er hyn, mae anghydraddoldeb rhyw yn parhau i fod yn broblem mewn bywyd gwaith a chyhoeddus. Nid oes digon o gynrychiolaeth o ferched yn y diwydiannau STEM; mae merched yn parhau i ennill llai o gyflog nag dynion; merched sydd yn cael eu hystyried fel y prif ofalwyr o hyd, ac maent hefyd yn dominyddu’r mwyafrif o swyddi rhan amser a chyflog isel.

Dangosai’r darlun yma bod angen newidiadau mawr o hyd, ond mae Chwarae Teg yn benderfynol i gymryd y camau angenrheidiol tuag at gydraddoldeb rhyw.

 

Sut fedri di helpu

Llenwa’r Arolwg

Bydd yr arolwg yn gofyn i ti am dy ddiddordebau, dyheadau gyrfa, barn am ddatblygiad gyrfa merched, ac archwilio ble fyddet ti’n gweld dy hun yn y 25 mlynedd nesaf. Mae’r holl ymatebion i’r arolwg yn gwbl gyfrinachol. Llenwa’n harolwg yma, bydd yn cymryd tua 10 munud i’w lenwi… ac efallai byddi di’n ennill £50.

Ymuno â chyfarfod grŵp ffocws

Byddem yn cynnal cyfarfodydd grwpiau ffocws ledled Cymru fel rhan o’r ymchwil. Os oes gen ti ddiddordeb mewn mynegi dy farn mewn trafodaeth gyfeillgar, cysyllta gyda phartner ymchwil Chwarae Teg Dr Hade Turkmen ar e-bost: Hade.Turkmen@chwaraeteg.com

I ddarganfod mwy am Chwarae Teg a’u gwaith, ymwela â’r wefan.

 

Exit mobile version