Site icon Sprout Cymraeg

Snap Map: Gwych neu Hunllef?

Heddiw rwyf wedi hwylio cwch dros Y Barriff Mawr, wedi deifio awyr yn Alasga, yna gwylio cath fach yn disgyn oddi ar soffa yn Abertawe, bob un cyn i mi godi o’r gwely.

Mae’n debyg bod oedolion wedi rhoi rhybudd i ti am Snap Map yn barod. Ond beth yw’r broblem? Wedi’r cwbl, os byddet ti’n mynd i ddeifio awyr, fyddet ti ddim eisiau rhannu’r profiad efo’r byd?

Mae’n wir fod gan rai rhieni ofn mawr o’r rhyngrwyd. Mae fy mam i yn un ohonynt: pan ddarllenodd am Snap Map yn y papur newydd dywedodd y dylwn i ddileu Snapchat yn gyfan gwbl. Mae ei chalon hi yn y lle iawn, ond pan fydd yn rhybuddio am bethau ar-lein mae’n anodd gwybod os yw’n rhoi cyngor pwysig, neu os ydy hi wedi mynd i banig dros rywbeth nad yw’n deall yn iawn.

Dwi wedi bod yn defnyddio’r rhyngrwyd am y mwyafrif o’m mywyd, ac wedi dysgu bod ffordd mam o ddelio gydag ef (“mae popeth yn beryglus! Paid cyffwrdd dim ohono!”) yn syniad drwg gan y byddwn i yn colli allan ar gymaint o bethau grêt. Ond dwi wedi gwneud digon o gamgymeriadau hefyd i ddeall bod y syniad bod “popeth yn ddiogel! LAWRLWYTHA’R APIAU I GYD!” yn beryglus ac yn dwp.

Dydy hyn ddim yn syniad da

Y gamp ydy dod o hyd i’r cydbwysedd. Felly gad i mi amlygu pethau i ti:

Mae technoleg yn wych.

Wyddost ti beth sydd ddim mor wych? Dweud wrth bobl ddiarth ble rwyt ti’n cysgu. 

Rwyt ti’n gwybod hyn yn barod. Fyddet ti ddim yn cerdded at ddieithryn ac yn rhoi dy gyfeiriad iddynt. Hyd yn oed ymysg y bobl ti’n adnabod, mae yna rai pethau fyddet ti ond yn rhannu gyda dy ffrindiau agosaf neu deulu. Y perygl o dechnoleg ydy bod posib rhannu gwybodaeth bersonol heb sylweddoli – yn enwedig os wyt ti’n derbyn cais ffrind gan ddieithrion.

 

https://www.youtube.com/watch?v=f2DZXKAhT9w&

Fyddet ti ddim yn rhoi dy gyfeiriad i ddieithrion ar y stryd, felly paid rhannu dy leoliad efo dieithrion ar y we.

Nid oes angen i ti rannu dy leoliad byth. Os wyt ti’n dewis ei rannu, gwna’n siŵr dy fod di’n meddwl yn ofalus gyntaf. Gofynna i ti dy hun:

Dyma fy rheol: rhanna cipluniau yn unig (nid pob eiliad o dy fywyd).

Mae pob un o fy apiau wedi’u rhagosod i gadw lleoliad i ffwrdd. Os ydw i’n gweld rhywbeth hoffwn rannu â’r byd byddaf yn ystyried y rhestr uchod ac, os yw’n parhau i fod yn syniad da, pan fyddaf yn postio’r llun neu’r fideo byddaf yn dewis y lleoliadau (e.e. ‘Add location’ ar Instagram, neu rannu i ‘Our Story’ ar Snapchat) ond am y post yno yn unig. Cyn rhannu’r post nesaf dwi’n sicrhau bod y lleoliad yn ôl yn llwyd unwaith eto.

Os oes gen i rywbeth sydd yn werth ei rannu – fel tynnu llun o’r Tŵr Eiffel – yna mae rhannu lleoliad yn gwneud synnwyr. Ond os wyf yn cerdded o gwmpas, ddim yn tynnu lluniau hyd yn oed, yna mae dweud wrth bobl yn union le ydwyf yn un ai’n ddiflas neu… yn eithaf iasol. Dwi ddim eisiau i bobl yn y coleg wybod pan fyddaf yn trydar o’r toiled!

Sut ydw i’n cadw fy hun yn ddiogel?

Y newyddion da ydy ei bod yn hawdd cadw dy leoliad yn breifat. Yn Snap Maps: pwysa ar yr olwyn gocos yn y gornel i weld y gosodiadau. Y gosodiad mwyaf diogel ydy ‘Ghost Mode’, sydd ddim yn cyhoeddi dy leoliad i neb.

Os yw dy Snap Map wedi’i osod i ‘My Friends’ yna mae pawb ar dy restr ffrindiau yn gallu gweld dy leoliad (trwy’r adeg!). Dwi ddim yn argymell defnyddio’r gosodiad yma, ond os wyt ti yna cer drwy dy restr ffrindiau a sicrhau mai dim ond pobl ti’n ei adnabod mewn bywyd go iawn sydd arno, a phobl mae gen ti ffydd ynddynt! Os oes dieithrion ar dy restr ffrindiau yna gallant weld ble rwyt ti’n byw a dyw hynny DDIM yn syniad da!

Wrth rannu gyda ffrindiau, mae’n syniad da clicio ar ‘Select Friends’ a dewis ychydig o bobl agos rwyt ti’n hapus i rannu dy leoliad â nhw. Yn bersonol dwi wedi gwneud hyn ac wedi ticio aelodau’r teulu i gyd, mae gen i ffydd ynddyn nhw ac maent yn gwybod ble dwi’n byw beth bynnag.

 

Os wyt ti’n cyflwyno llun i ‘Our Story’ yna gall pawb ei weld, hyd yn oed os wyt ti’n defnyddio ‘Ghost Mode’.

Snap Map ydy’r unig un sydd yn gwneud hyn?

Nage wir! Mae llwyth o apiau yn gallu gweld (a rhannu) dy leoliad.

Os wyt ti’n amau, chwilia am y symbol yma:

Ei ystyr ydy ‘lleoliad’ ac wrth ei glicio rwyt ti’n cael opsiynau i rannu dy leoliad.

Dyma Twitter er esiampl:

 

 

 

 

Os yw’r blwch yma wedi’i dicio, bydd pob trydar rwyt ti’n ei yrru yn cynnwys dy union leoliad. Iasol!

Darllena’n erthyglau eraill am gadw’n ddiogel ar-lein.

Exit mobile version