Site icon Sprout Cymraeg

Pethau Rhad Ac Am Ddim i Wneud Yng Nghaerdydd: 13-19 Medi

Mae’r flwyddyn ysgol a choleg newydd wedi hen ddechrau a myfyrwyr y brifysgol yn dychwelyd yn araf bach… mae pethau’n dod yn ôl i normal yng Nghaerdydd. Felly beth sydd gan yr wythnos yma i’w gynnig?

Drysau Agored: Argae Bae Caerdydd

11, 18, 25 Medi – 10yb-12yp – Bae Caerdydd – Am ddim

Llun trwy garedigrwydd Cadw.gov.uk

Mae rhaglen Drysau Agored Cadw yn brysur iawn yr wythnos hon gyda dros ddeg o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal. Yr Argae yw’r prosiect oedd yn gyfrifol am alluogi datblygiad Bae Caerdydd, ac adfywiad Penarth. Er bod yr ystafell reoli yn cael ei staffio 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn, nid yw’n agored i’r cyhoedd fel arfer. Gwybodaeth bellach yma.

Drysau Agored: Eglwys Gadeiriol Llandaf

15 Medi – drwy’r prynhawn – Llandaf – Am ddim

Llun trwy garedigrwydd Cadw.gov.uk

Wyddost ti mai hwn ydy un o’r Eglwysi Cadeiriol hynaf ym Mhrydain, yn dyddio’n ôl i 1107? Mae’n debyg y bydd sawl o drigolion Llandaf yn brolio bod bodolaeth yr Eglwys hon yn profi bod Llandaf yn ddinas ymhell cyn yr oedd Caerdydd. Bydd archifau’r adeilad hanesyddol yn agored, a theithiau tywys o’r eglwys a’r clochdy (bydd angen archebu lle o flaen llaw i’r clochdy). Gwybodaeth yma. Mae Castell yr Esgob cyfagos yn agored hefyd – gwybodaeth bellach yma.

Drysau Agored: Planhigfeydd Parc Bute

15 Medi – 11yb-12yp – Parc Bute – Am ddim ond angen tocyn

Llun trwy garedigrwydd Cadw.gov.uk

Un gwych i unrhyw ddarpar fotanegydd. Wyt ti wedi pendroni beth sydd y tu mewn i’r adeilad dirgel yna yn y parc? Dyma dy gyfle i ddarganfod. Ar un tro defnyddiwyd i dyfu aceri o flodau i’r Arglwydd Bute a’i deulu. Bellach mae Cyngor Caerdydd yn ei ddefnyddio at yr un pwrpas. Gwybodaeth yma. Bydd angen ffonio o flaen llaw i sicrhau lle.

Drysau Agored: Y Gorau o’r Gweddill

Llun trwy garedigrwydd Cadw.gov.uk

Mae yna lawer o ddigwyddiadau Drysau Agored eraill yn digwydd yr wythnos hon. Edrycha ar y rhestr i weld os oes rhywbeth o ddiddordeb i ti. Datgelu’r cyfrinachau yn Neuadd Seiri Rhyddion Caerdydd, cael cip ar yr archifau yn Eglwys Santes Margaret ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, cymryd taith drwy Lys Insole, Llandaf ei hun a Mynwent Cathays.

Ymarferion Agored: Passion

19 a 26 Medi – Canolfan Mileniwm Cymru – Am ddim gyda thocyn

Llun trwy garedigrwydd CMC

Mae’r CMC hefyd yn agor ei drysau i’r cyhoedd yr wythnos hon. Gwylia’r sioe newydd pan fydd Cwmni Dawns Genedlaethol Cymru a Theatr Cerdd Cymru yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf gyda mynediad arbennig i’r ymarferion. Gwybodaeth a thocynnau yma.

Exit mobile version