Site icon Sprout Cymraeg

Pethau Rhad ac am Ddim i’w Gwneud yng Nghaerdydd: 14-20 Mawrth

Ac eithrio ychydig o law mân fis Ebrill, bydd yr haul yn tywynnu nawr, tywydd godidog. Hen bryd mynd allan mwy!

Daw newyddion gorau’r wythnos hon gan y BBC. Bydd BBC Three, y lle i oedolion ifanc ar y Bîb ers i mi gofio, yn dangos ei raglenni ar BBC 1 ar nosweithiau Llun, Mawrth a Mercher. Felly, o leiaf gallet ti wylio ychydig o deledu reit dda ar nosweithiau pan fydd dim yn digwydd (er mae popeth ar-lein beth bynnag…)

Y DIGWYDDIAD MAWR

Bydd Cymru yn wynebu Iwerddon yn beth fydd yn sicr o fod yn un o gemau gorau’r Chwe Gwlad. Yn ôl pob sôn, os yw Cymru’n ennill byddant yn ennill y Gamp Lawn, am eu bod wedi bod yn chware’n anhygoel. Dyma fy marn i wedi’i gynrychioli gyda meme y Simpsons gan ffans o’r Iwerddon:

Bydd y gêm fawr yn cychwyn am 2:45yp dydd Sadwrn, yn ein stadiwm Principality ni. Felly os wyt ti’n hoff o rygbi, dyma dy benwythnos mawr di. Os ddim, yna bydd y ddinas yn brysur iawn felly gwell osgoi canol y ddinas, pob tafarn, a thrafnidiaeth gyhoeddus i gyd. Dwi’n gobeithio dy fod di’n ffan o rygbi neu prin iawn y bydd yn benwythnos da i ti.

DYDD IAU 14 MAWRTH

Mae ffrind y Sprout, yr AC lleol Vaughan Gething, yn noddi arddangosfa Mamau yn Affrica yn y Senedd. Bydd yr arddangosfa ffotograffiaeth yma yn cynnig golwg swynol o hanes merched Affricanaidd. Clicia yma am wybodaeth ar wefan y Senedd

DYDD GWENER 15 MAWRTH

Gwell streic hinsawdd plant nag streic o dywydd garw mae’n debyg?

Bydd plant ledled Cymru yn mynd ar streic o 10yb. Byddant yn ymdeithio allan o’r ysgol, yn neidio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn mynd draw i’r Senedd. A hen bryd hefyd meddwn i. Os wyt ti’n 10 oed heddiw, erbyn i ti gyrraedd fy oed i, bydd yn rhy hwyr i wneud unrhyw beth am newid hinsawdd sydd yn dirywio’n sydyn iawn. Hyd yn oed os wyt ti’n iau nag 16 oed, rwyt ti’n dal i fod yn rhan o broses democrataidd, felly rho bwysau ar Lywodraeth Cymru a dangos bod dy ddyfodol yn bwysig i ti! Tagia dy ffrindiau ar y digwyddiad Facebook.

Mae Dominika Rau (efallai dy fod di wedi clywed ei sioe Radio Platfform) yn cyflwyno ei phrosiect celf perfformio newydd ar harasio rhywiol. Mae’n chwilio am bobl ifanc o bob rhyw i ddod a chymryd rhan. Mwy amdano ar adran digwyddiadau’r Sprout.

DYDD SADWRN 16 MAWRTH

Diwrnod y rygbi, felly ychydig iawn o bethau am ddim a rhad fydd yn digwydd yng Nghaerdydd. Ond os wyt ti eisiau mentro allan….

Efallai bod Techniquest yn le da i fynd. Mae’n benwythnos Gwyddoniaeth Prydain ac mae llawer yn digwydd yno: robotiaid, rocedi neu rasio cynrhon (maggots) hyd yn oed, ych! Cer draw i’r dudalen Facebook i ddarganfod holl ddigwyddiadau’r penwythnos.

Neu beth am ddianc y ddinas a mynd draw i Gastell Caerffili i ymuno yn y sesiynau ‘ffitrwydd yn y castell’ rheolaidd ar foreau Sadwrn. Gwybodaeth bellach ar Cadw.

Mae’r talentau canu lleol, Fransesca a Cosmo, yn perfformio gig arall ar y cyd, yn The Cottage y tro hyn, yn y Sblot yn ôl pob sôn. Bydd y gig yn cychwyn o 8:30yh gyda mynediad am ddim! Gwybodaeth bellach ar ddigwyddiad Facebook.

DYDD SUL 17 MAWRTH

Heb os nac oni bai, dyma’r digwyddiad gyda’r enw gorau’r flwyddyn hon, YSTRADIVARIUS, cyngerdd am ddim yn eglwys Sant Teilo yn y Cathays, dros y lôn i ble’r oeddwn i’n byw fel myfyriwr. Mae’r cyngerdd yma yn dathlu pen-blwydd 80 yr adeiladwr organ Peter Hindmarsh. Bydd y drysau mawr yn agor am 3:30yp. Gwybodaeth bellach ar Facebook.

DYDD LLUN 18 MAWRTH

Coda dy ben dros y tonnau gyda’r digwyddiad yma gan Heads Above the Waves, digonedd o farddoniaeth er budd yr elusen ymwybyddiaeth iechyd meddwl yma. Mynediad £3.

DYDD MAWRTH 19 MAWRTH

DYDDIAD CAU TOCYNNAU JAILBREAK , 22 MAWRTH:

Dyma gyfnod mwyaf gwyllt y flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd myfyrwyr yn cychwyn ar y digwyddiad Jailbreak flynyddol, ble mae’n rhaid begian, hyslo a bodio lifft i unrhyw le heblaw Caerdydd. Mae rhai pobl yn llwyddo cael yr arian at ei gilydd am fws i Wexford, tra bod rhai yn llwyddo i fancio ychydig o ffafrau ac yn cysgu ar y traeth yn Cyprus cyn dychwelyd i Gaerdydd cyn y diwedd. Facebook / Myfyrwyr Caerdydd.

DYDD MERCHER 20 MAWRTH

Dyma dy gyfle i weld Paul McCaffrey yng Nghlwb Glee. Darllena gyfweliad Becca gyda Paul yma. Tocynnau ar wefan y Glee. (£12)

Neu beth am weld llwyth o gomediwyr yng Nghlwb Comedi misol Theatr y Sherman, £12 neu £9 os wyt ti’n prynu o flaen llaw.

Os bydda ti’n hoffi derbyn Pethau Rhad ac Am Ddim i’w Gwneud yng Nghaerdydd fel cylchlythyr wythnosol defnyddiol, yna cofrestra yma.

Cyn i ti fynd, cofia lenwi fy ffurflen adborth bach, hoffaf wella Pethau Rhad ac Am Ddim… fel ei fod yn gwasanaethu pawb yn well! Mae gen i syniadau am newidiadau yn barod diolch i’r bobl sydd wedi ateb eisioes – ond hoffaf ychydig mwy plîs!

Exit mobile version