Site icon Sprout Cymraeg

Pethau Rhad ac Am Ddim i Wneud yng Nghaerdydd 4-10 Hydref

Croeso’n ôl i Pethau Rhad ac Am Ddim i Wneud yng Nghaerdydd. Bu dipyn o gwyno wythnos diwethaf am ein bod wedi methu un digwyddiad. “Sut fethest ti Kylie?” meddai rhai, a “dwi’n llythrennol ffaelu credu nad oedd Kylie Minogue ar y rhestr digwyddiadau!” meddai eraill, a “mae hyn yn fy ngwirioneddol mhoeni – fedrai ddim cael rhestr digwyddiadau’r Sprout allan o’m mhen!”.

Ac i’r holl bobl yma dywedaf “tawelwch” – gan fod y tocynnau yn llawer rhy ddrud i’r rhestr yma. Dyma’r ffordd mae’r ‘locomotion’ yn rhedeg fan hyn.

Creu ar y Cyd

2-31 Hydref – 10yb – 5yh – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – Am ddim

Mae Creu ar y Cyd yn ddigwyddiad darlunio arbennig cynhelir yn yr Amgueddfa yn ystod mis Hydref. Yr wythnos hon mae yna ddosbarthiadau arbennig gydag artistiaid lleol. Er esiampl, am 2yp dydd Sadwrn bydd yr artist Maria Hayes yn tywys pobl o amgylch yr amgueddfa i arlunio’r arddangosfeydd. Darllena fwy ac archebu tocyn ar gyfer y gweithdai ar y wefan.

Atgyweirio Repair Café Cymru – Cathays

Sadwrn 6 Hydref – 10yb-1yp – Neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth (Salvation Army), Cathays – Am Ddim

Cyfle i drwsio hen stwff sydd wedi torri am ddim yn y caffi atgyweirio hwn.

“Rhai o’r pethau cyffredin sy’n cael eu gwneud yma yw; cynnal a chadw syml beic, trwsio offer trydanol, cymorth cyfrifiadurol, gwnïo, trwsio addurniadau, a gwaith coed; ond rydym yn hapus i edrych ar y mwyafrif o bethau (heblaw am ficrodonau gan eu bod yn rhy beryglus).”

Disgo Distaw HUSH

Sadwrn 6 Hydref – 8 tan hwyr – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – £11-£15

Efallai nad yw’n rhad iawn, ond mae’n swnio’n anhygoel. Ar ôl prynu tocyn bydd angen talu blaendal o £5 am bâr o glustffonau dwy sianel gyda dewis o ddau DJ. Bydd popeth yn ddistaw pan fyddi di’n mynd i mewn ond rho’r clustffonau ymlaen. Fedri di ddyfalu pwy sy’n bopian i un trac, a pwy sy’n cael bwgi i’r llall? Ac ydyn ni wedi sôn eu bod yn “gwthio’r cerfluniau i’r naill ochr, yn rhoi’r ffosiliau dan glo” fel bod y dawnsio yn digwydd dan do’r sefydliad mawreddog – yr Amgueddfa Genedlaethol!? Gwybodaeth bellach yma. Mae’r nos Wener wedi gwerthu allan (er efallai bydd posib mynd i mewn ar y drws ar ôl 9yh) ond mae tocynnau nos Sadwrn ar werth o hyd yma.

Hanner Marathon Caerdydd

Sul 7 Hydref – 9yb – Castell Caerdydd, Stadiwm Dinas Caerdydd, Bae Caerdydd, Parc y Rhath

Coda’n fuan bore Sul i weld, a chael dy weld yn, y digwyddiad mwyaf yr wythnos hon. Mae’n debyg ei bod yn rhy hwyr penderfynu rhedeg y ras 13 milltir, ond os wyt ti am gefnogi dy ffrindiau sy’n fwy dewr ac yn fwy trefnus na thi, sicrha dy fod yn dangos dy wyneb yma. Manylion yma.

Cyngerdd Amser Cinio

Sul 7 Hydref – 1yp – Amgueddfa Genedlaethol – Am ddim

Cyngerdd amser cinio am ddim gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyfagos. Pam ddim? Ychydig mwy o wybodaeth yma.

Anim18: Ffilmiau Byr Prydeinig a thrafodaeth BAME

Sul 7 Hydref – 5yh – Chapter – £5.20 consesiwn

Noson gyffrous gyda chasgliad o ffilmiau byr gan greawdwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu dangos yn y Chapter. Gwybodaeth bellach a thocynnau yma.

Exit mobile version