Site icon Sprout Cymraeg

Pam Ymddiriedolwyr Ifanc?

Helo, Joe Stockley ydw i. Dwi’n 22 oed ac yn Ymddiriedolwr (Trustee). Rwyf wedi bod yn ymddiriedolwr gyda’r Cyngor Ieuenctid Prydeinig (y BYC) ers dros flwyddyn bellach. Mae wedi bod yn etholiad llawn trafferthion, proses dysgu oedd yn anorchfygol ar yr olwg gyntaf, a darganfod sut i dderbyn cymorth gan rai oedd â llawer mwy o brofiad i oresgyn y broses. Mae rhai pethau wedi bod yn anodd iawn a rhai yn wobrwyol iawn.

Joe Stockley

Mae’r BYC yn ymfalchïo yn y ffaith bod ganddynt fwrdd gydag aelodaeth o ‘bobl ifanc’ yn gyfan gwbl. Mae pawb rhwng 16 a 25 oed. Rydym yn penderfynu ar gyfeiriad yr elusen gyda’n gilydd a beth yw’r ffordd orau i wasanaethu pobl ifanc. Popeth dylai unrhyw fwrdd elusen ei wneud.

Y buddiannau a’r her

Yn y flwyddyn a deufis o ymgeisyddiaeth, rwyf wedi bod yn ddi-waith am wyth mis ar ôl y brifysgol, wedi cael dwy swydd, ac wedi profi blwyddyn a deufis o hunanddatblygiad. Mae bod yn ymddiriedolwr i’r BYC wedi helpu gyda’r datblygiad yma dwi’n sicr, ac mae wedi rhoi sylfaen cadarn o brofiad i mi at y dyfodol. Os wyt ti’n berson ifanc yn darllen hwn, bydda’n ymddiriedolwr. Bydd yn dy ymestyn, dy dynnu a dy brofi, a byddi di’n dysgu mwy nag yr wyt ti’n ei roi.

Cysylltu gyda phobl ifanc

Mae bod yn ymddiriedolwr wedi agor fy llygaid i’r hyn dyw ymddiriedolwyr ddim. Dwi wedi bod yn rhy weithredol yn fy ngwaith. Dwi ddim (sioc, gorchuddia dy glustiau) wedi darllen digon i baratoi ar gyfer cyfarfodydd bwrdd. Mae yna gyfnodau pan oeddwn i’n gwybod dim am yr hyn oedd yn cael ei drafod. Doeddwn i ddim yn deall digon am hanes yr elusen, ac wedi gorfod creu slot dwy awr reolaidd bob pythefnos i ddarllen am y sector, ac am yr elusen.

Pan fydd ymddiriedoli ifanc yn cael ei wneud yn dda (ac mae’r BYC yn gwneud hyn yn dda) mae’n glir pa mor anhygoel a grymusol gall ymddiriedolwyr ifanc fod. Rwyf wedi bod yn chwifio’r fflag fel bod mwy o elusennau yn cysylltu gyda phobl ifanc ar lefel strategol. Dydy elusennau sydd heb gynrychiolaeth ieuenctid ar lefel strategol ddim yn gwneud hyn am eu bod yn ofni’r hyn byddant yn ei glywed, ond am eu bod yn ansicr o sut i gysylltu gyda phobl ifanc orau. Erbyn diwedd y blog yma, gobeithiaf byddaf yn rhoi gwell dealltwriaeth o ‘Pam Ymddiriedolwyr Ifanc’ a pam bod cysylltu gyda phobl ifanc yn gam mor bwysig i elusennau.

Yr hyn nad wyf i

Credaf ei bod yn haws adnabod dy hun yn ôl yr hyn nad wyt ti, felly dyma fynd ati i ddefnyddio’r dull yma:

Nid wyf yn ymddiriedolwr er mwyn ‘rhoi’n ôl’ i’r sector elusennol neu’r is-sector ieuenctid. Os bydd hyn yn wir yn y dyfodol, credaf mai dyma’r diwrnod y dylaf ymddiswyddo o fod yn ymddiriedolwr. Awgrymai hyn nad wyf yn parhau i ddysgu o’m mhrofiadau. A beth yw pwrpas ymddiriedolwr sydd ddim yn datblygu ei sgiliau?

Nid wyf yn ymddiriedolwr er mwyn cynrychioli ‘pob person ifanc’. Nid fi yw llais fy nghenhedlaeth. Efallai bod fy nealltwriaeth yn well na pherson yn ei 50au, ond wyddwn i ddim sut effaith mae Brexit yn ei gael ar Fwslemiaid ifanc du yn bendant. I ddeall hynny rhaid siarad â nhw. Paid gofyn “beth mae pobl ifanc yn ei feddwl?”, nid yw hyn yn cysylltu gyda phobl ifanc, mae’n nawddoglyd.

Nid wyf yn ymddiriedolwr er mwyn ‘arwain yr elusen i fawredd’. Mae’r elusen yn wych yn barod. Mae yna dîm o staff galluog iawn sydd yn ei arwain i fawredd bob dydd, yn cyflawni ei weledigaeth a’i amcanion strategol – neu i roi hyn mewn ffordd haws – helpu pobl i deimlo’n rymus. Rydym yn ffodus iawn o’r staff. Rwyf yn ymddiriedolwr er mwyn arwain a chwestiynu, gwirio a chydbwyso, i helpu goruchwilio, i fod yn bencampwr mwyaf yr elusen. Dyma ydy pwynt gwerthu mwyaf ymddiriedolwyr ifanc ac, i mi, y broblem fwyaf hefyd i fod yn ymddiriedolwr da o bosibilrwydd.

Symboleiddiaeth

Mae pobl ifanc mewn sefyllfa unigryw. Gallant fod yn amrwd, yn angerddol, brwdfrydig, gyda digon o amser. Maent yn wahanol, yn tynnu sylw a gyda dealltwriaeth wych o’r pynciau llosg. Swnio’n dda?

Y broblem sydd gen i ydy pan fydd ymddiriedolwr ifanc yn cael ei osod yn y blwch yma. Nhw yw’r rhai sydd yn angerddol, nhw yw’r rhai sydd yn deall y peth Twitter yna. Gellir eu llusgo allan o flaen yr hapddalwyr i roi cyflwyniad brwdfrydig dibynadwy am ba mor wych ydy’r elusen. Mae pobl ifanc eisiau bod yn ymddiriedolwr am sawl rheswm. Un o’r rhesymau mwyaf yn fy marn i ydy i ddysgu. Os ydynt yn cael eu tynnu i mewn i amgylchedd fel yr ‘amrywiaeth’ yn eu mysg, mae’r tag yma’n gallu mygu. Peidiwch wneud eich ymddiriedolwyr ifanc yn ‘amrywiaeth’ symboleiddiaeth, a pheidiwch eu trin fel hyn.

Argymhelliad

Fyddwn i yn awgrymu i bobl ifanc ddod yn ymddiriedolwr? Yn bendant. Os wyt ti’n barod i weithio’n galed mae’n gyfle i ddysgu, ac yn gyfle i fewnblannu dy hun yn ddofn i mewn i fframwaith elusen. Mae’n gyfle i helpu achos sy’n bwysig i ti, a gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol.

Byddwn yn argymell i elusennau chwilio am berson ifanc fel ymddiriedolwr. Os wyt ti’n barod i weithio mae’n gyfle i ddysgu, i addysgu, i ymestyn dy gynrychiolaeth

Mae cael sefydliad i bobl ifanc heb gynrychiolaeth pobl ifanc ar y bwrdd yn gwrthdaro. Mae pobl ifanc yn alluog os ydych chi’n barod i’w derbyn.

Adnoddau:

Twitter Ymddiriedolwyr Elusennau Ifanc

‘Pobl ifanc fel ymddiriedolwyr ifanc’ gan y Comisiynydd Elusennau

Sut gall ymddiriedolwyr ifanc fod o fudd i’ch bwrdd

Os wyt ti eisiau siarad am unrhyw beth drafodwyd yma, e-bostia joestock10@gmail.com neu DM ar Twitter @Joey_St0cks

Exit mobile version