Mae llyncu gwybodaeth ddiddorol ond anghywir yn rhywbeth sydd wedi digwydd i unrhyw un sydd yn defnyddio’r Rhyngrwyd, pa un a’i ydynt yn ymwybodol o hynny neu beidio. Yn y blog yma, rwyf am geisio egluro ychydig am fathau o wybodaeth anghywir ar-lein fydda’n gallu cael effaith arnat ti a’r bobl sydd yn bwysig i ti.
Esiamplau o wybodaeth anghywir, newyddion ffug a ‘clickbait’
I gychwyn, rwyf am rannu esiampl bersonol o sut mae newyddion ffug wedi cael effaith arnaf i. Mae’n ymwneud â chyfres rydw i’n ei fwynhau ac rwyf yn rhan o gymuned JoJo’s Bizarre Adventure. Os nad wyt ti’n ymwybodol yn barod, mae disgwyl bydd cyhoeddiad am bumed gyfres ‘Stone Ocean’ gan yr addasiad anime yn nigwyddiad Joestar Inherited Soul ar 4ydd Ebrill. Nid oedd manga’r gyfres yma yn llwyddiannus yn Japan (er rwy’n eithaf hoff ohono fy hun) ac oherwydd hyn, mae pobl wedi bod yn rhannu propaganda “stone ocean never” neu “part 6 never” ar gyfryngau cymdeithasol. Mae nifer o rai sydd yn rhan o’r gymuned ffans JoJo’s Circle wedi siomi, ac wedi gyrru negeseuon emosiynol i’r cwmni cynhyrchu, David Productions, yn gofyn pam ac yn erfyn arnyn nhw i newid eu meddwl. Yn dilyn hyn, cyhoeddodd David Productions nad oedd bwriad i beidio creu rhan 6 – mai newyddion ffug oedd hyn!
Gad i ni edrych ar esiampl gyffredin arall. Mae Dr. Joseph Mercola yn ddoctor osteopathi sydd yn cael ei dargedu gan y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau (FDA) am hyrwyddo cyngor meddygol anghywir, camarweiniol a pheryglus. Mae ei wefan a’i flog yn hyrwyddo cynnyrch sydd yn cynnwys gwybodaeth ffug a chamarweiniol gyda phynciau meddygol fel firysau, bwyd a thechnoleg. Yn amlwg, mae hyn yn gallu bod yn beryglus iawn i’r cyhoedd sydd yn mynd i’r wefan am wybodaeth ac yn cymryd yn ganiataol bod y wybodaeth yn gywir.
Yn ychwanegol i hyn, mae parodïau a fideos wedi’u cwtogi yn creu anrhefn pan ddaw at wybodaeth anghywir, newyddion ffug a ‘clickbait’. Mae’r fideos yma wedi tynnu’r sain wreiddiol ac wedi rhoi sain wahanol. Mae’r rhain yn cael eu creu am hwyl fel arfer; ond weithiau gallant fod yn sarhaus a chreu newyddion ffug, sydd yn beryglus. Mae fideos sydd wedi’u cwtogi yn gallu awgrymu bod selebs fel Kim Kardashian, neu wleidyddwyr fel Boris Johnson, yn dweud rhywbeth fydda’n gallu edrych yn ddrwg a chwalu enw da.
Sut ydw i’n delio gyda newyddion ffug?
Mae gwybodaeth anghywir yn profi na ddylem ymddiried ym mhopeth sydd yn cael ei glywed. Mae’n ymddangos fel bod hyn yn rhywbeth nad ellir osgoi, ond, os wyt ti’n gwirio ffeithiau pan fyddi di’n darllen, gwylio neu wrando ar rywbeth, yna mae’n ffordd dda i sicrhau bod yr hyn rwyt ti’n ei lyncu yn gywir ac yn ffeithiol. Mae posib gwirio ffeithiau wrth ddarllen sawl ffynhonnell gredadwy wrth edrych ar beiriant chwilio fel Google.
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Dylan trwy Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd.