Site icon Sprout Cymraeg

Gwobrau i Athletwyr Caerdydd

Bydd 67 o athletwyr ifanc talentog o Gaerdydd yn buddio o gronfa £42,000 diolch i’r fenter gymdeithasol hamdden elusennol GLL, sydd yn rheoli Canolfannau Hamdden Better Caerdydd ar ran Cyngor Caerdydd.

Bydd Sefydliad Chwaraeon GLL, y rhaglen cefnogi athletwyr annibynnol fwyaf yn y DU, yn cefnogi’r athletwyr lleol. Mae’r sefydliad yn dathlu 10 mlynedd o gefnogi athletwyr heddiw ac yfory.

Y wobr

Bydd yr athletwyr yn derbyn pecynnau gwobr sydd yn cynnwys grantiau ariannol o hyd at £1,250, aelodaeth am ddim i ddefnyddio cyfleusterau canolfannau hamdden Caerdydd a dros 300 o leoliadau sydd yn gweithio mewn partneriaeth â GLL. Cawn hefyd fynediad i wyddoniaeth chwaraeon, cefnogaeth feddygol, a chyfleoedd cyflogaeth. Pob un yn canolbwyntio ar gefnogi siwrne’r athletwr.

Chloe Tutton

Mae Chloe Tutton, 21 o Grangetown, yn derbyn Gwobr Llysgennad. Enillodd Chloe fedal efydd yn nofio broga merched 200m yng Ngemau’r Gymanwlad yn Brisbane yn ddiweddar.

Dyma oedd gan Chloe i ddweud ar ôl derbyn ei gwobr:

“Fy mhrif fwriad nawr ydy i gystadlu ac ennill medal yng Ngemau Olympaidd Haf Tokyo yn 2020. Cyn hynny, mae gen i nifer o gystadlaethau chwaraeon i gystadlu ynddynt, fel y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn yr haf.

“Mae derbyn y wobr yma gan Sefydliad Chwaraeon GLL yn rhoi help mawr i mi fel rhywun 21 oed sydd yn symud i raglen hŷn newydd. Mae symud o gartref yn gam enfawr, yn enwedig gan nad oes llawer iawn o ariannu gan y sbort ei hun i helpu gyda chostau byw, bwyd ac anghenion hyfforddi. Bydd hyn yn lleddfu ychydig o’r straen i wella ffordd o fyw a chanolbwyntio ar gael canlyniadau nofio gwell.”

Rhydian Castle

Un o’r rhai ieuengaf i dderbyn y wobr ydy Rhydian Castle, 11 oed, disgybl yn Ysgol Glantaf. Dechreuodd Rhydian chwarae sboncen yng Nghanolfan Hamdden Y Tyllgoed llynedd a bellach mae’n caru’r gamp ac yn chwarae hyd at wyth awr yr wythnos. Mae’n mynychu Sgwad Academi Sboncen Cymru yng Ngerddi Soffia ac wedi dechrau ennill medalau. Mae’n chwaraewr eithriadol a bydd y grant yn helpu iddo lwyddo yn ei ddyheadau.

Dywedai Rhydian:

“Bydd y grant gan Sefydliad Chwaraeon y GLL yn fy helpu i barhau i roi cymaint o amser ac ymdrech i mewn i’r gamp a chaniatáu i mi gystadlu yn y wlad yma a thramor yn y dyfodol.”

Elinor Snowsill

Un o dderbynwyr gwobr llynedd oedd y chwaraewr Undeb Rygbi Cymru, Elinor Snowsill o Radur, Caerdydd. Mae hithau hefyd yn derbyn Gwobr Llysgennad eleni. Mae gan Elinor 48 o gapiau dros Gymru, gan gynnwys tri Chwpan Byd ac wyth Twrnamaint y Chwe Gwlad. Yn ddiweddar bu’n aelod o sgwad hyfforddi saith bob ochr Gemau’r Gymanwlad.

 

Dywedai Elinor, sydd wedi dychwelyd o Brisbane yn ddiweddar:

“Rwyf yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rwyf i a sawl un arall yn ei gael gan Sefydliad Chwaraeon GLL. Mae’n her barhaol i gael cydbwysedd rhwng gofynion bod yn athletwr a gweithio neu astudio’n llawn amser. Mae sefydliadau fel GLL yn helpu i leddfu’r rhai o’r heriau sydd yn codi yn y cyfnod yma.

“Cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad ddiweddar oedd uchafbwynt fy ngyrfa hyd yn hyn, a dychwelais o Awstralia yn benderfynol o ysbrydoli a chefnogi athletwyr y dyfodol. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn rhan o chwaraeon Cymru!”

Juliette Dickinson

Ychwanegai Juliette Dickinson, Cyfarwyddwr Rhanbarthol GLL dros Gymru:

“Mae yna gyfoeth o dalent chwaraeon ifanc yng nghymunedau lleol Caerdydd, ac mae hyn yn ysbrydoli. Rydym yn credu y bydd y mwyafrif o athletwyr sydd yn buddio o Sefydliad Chwaraeon GLL, yn rhoi rhywbeth yn ôl i chwaraeon ac i gymdeithas mewn ffordd bositif; bod hyn yn bencampwr y dyfodol yn ysbrydoli’r genedl, hyfforddi, gwirfoddoli, codi arian neu fod yn ddelfryd ymddwyn i bobl ifanc eraill i ddod yn fywiog a chymryd rhan mewn chwaraeon.”

Exit mobile version