Sprout Cymraeg

Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth 

Bachgen ifanc yn edrych yn ddryslyd ar ei ffôn

Wyt ti’n ddigon hen i bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd? Gall y rhyngrwyd fod yn lle eithaf anhrefnus yn y cyfnod cyn etholiadau. Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod y gwir ac yn dysgu ti sut i wirio ffeithiau dy ffrwd er mwyn gallu gwneud dewis gwybodus.

Grym dy bleidlais

Mae gan bobl ifanc 16 a 17 oed hawl gyfreithiol i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi llais uniongyrchol i ti yn y ffordd y mae Cymru’n cael ei rhedeg. Mae’n cael effaith ar bopeth o iechyd ac addysg i’r amgylchedd.

Weithiau, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng ffeithiau, barn a newyddion ffug yn y byd digidol. Mae yna lawer o wybodaeth yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol. Gall rhywfaint ohono fod yn ddefnyddiol iawn wrth geisio dewis dy bleidlais, ond mae rhywfaint ohono’n gallu bod yn ddryslyd neu’n gamarweiniol hefyd.

Mae’r ymgyrch Gwirio Dy Ffrwd wedi’i chynllunio i helpu ti i hidlo’r sŵn, nid i ddweud wrthyt sut i feddwl. Wrth wylio, darllen post, neu ddilyn ymgeisydd, dy benderfyniad di ydyw ar ddiwedd y dydd.

Rydym yn darparu’r adnoddau i helpu ti i fagu’r sgiliau sydd eu hangen i adnabod a herio’r camwybodaeth a’r twyllwybodaeth rwyt ti’n ei weld ar-lein. Ein nod yw sicrhau dy fod di’n gallu gwneud y dewis sydd orau i ti yn yr orsaf bleidleisio ar Fai 7fed.

Camwybodaeth a thwyllwybodaeth

Mae camwybodaeth yn gynnwys sy’n gamarweiniol ac yn anghywir, ond nid yn fwriadol. Mae pobl yn rhannu camwybodaeth yn ddidwyll, gan gredu ei fod yn gywir. Gallai hyn fod yn ffrind yn ail-bostio si am bolisi maen nhw’n credu sy’n wir. Efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli bod rhywbeth yn ffug, ond mae’n dal i ledaenu dryswch.

Mae twyllwybodaeth yn gynnwys sy’n fwriadol gamarweiniol ac yn anghywir. Mae pobl yn ei rannu gyda’r bwriad o dwyllo ac achosi niwed o bosibl. Mewn etholiadau, gall hyn gynnwys fideos ‘deepfake’ neu ffug ddogfennau a ddatgelwyd. Gall y math yma o bethau sbarduno ymateb emosiynol, fel dicter neu siom, a gall atal rhywun rhag pleidleisio’n gyfan gwbl.

Troi gwirio ffeithiau yn arfer

Mae’n cymryd amser i fagu dawn newydd, ond gellir symleiddio hyn wrth ddefnyddio’r tric pentyrru arferion. Dyma pan fydd rhywun yn defnyddio arfer sydd ganddynt eisoes (fel edrych ar hysbysiadau) ac yn ‘pentyrru’ arfer newydd, positif ar ei ben.

Yn hytrach na cheisio cofio gwirio ffeithiau popeth, ceisia ei baru gyda dy sgrolio arferol. Byddwn yn rhannu rhai awgrymiadau i helpu ti i ymdopi â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth gyda’n pentwr arferion, yn troi’r gwiriadau yma’n rhan naturiol o dy drefn ddigidol.

Cyngor i wirio cywirdeb cynnwys ar-lein

Ymchwilia’r ffynhonnell

Mae’n syniad da edrych ar bwy rannodd y wybodaeth yn wreiddiol. Chwilia am gynnwys o ffynonellau newyddion dibynadwy. Bydda’n ofalus o gyfrifon dienw neu broffiliau a grëwyd yn ddiweddar iawn. Hefyd, gwiria gyfeiriad y wefan. Mae safleoedd ffug yn aml yn twyllo pobl wrth ddefnyddio brandio ac URLs sy’n debyg iawn i rai’r brandiau newyddion eraill.

Pentwr arferion: Pan rwyt ti’n gweld post ar gyfryngau cymdeithasol, cyn i ti ddechrau darllen, tapia enw’r proffil yn gyflym i wirio dyddiad creu’r cyfrif a sawl dilynwr sydd ganddynt.

Gwirio’r dystiolaeth

Mae postiadau dibynadwy yn cyfeirio at dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys dolenni i drawsgrifiadau swyddogol y Senedd neu ddata gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Os yw post yn gwneud honiad mawr heb ddangos ei ffynhonnell, gallai fod yn gamwybodaeth neu’n dwyllwybodaeth.

Mae delweddau a fideos AI yn gyffredin, felly sicrha dy fod yn gwirio’r rhain ddwywaith. Defnyddia chwiliad delwedd wrthdro (reverse image search) i weld os yw llun yn cael ei ddefnyddio allan o gyd-destun. Ar gyfer fideos, edrycha’n ofalus ar geg neu ddwylo’r person. Yn aml mae gan ‘deepfakes’ fân ddiffygion cynnil neu batrymau lleferydd robotig sydd ddim yn cyfateb i’r person go iawn. Os nad wyt ti’n gwybod, gwiria ef gyda ffynonellau newyddion dibynadwy.

Pentwr arferion: Cyn i ti rannu post, treulia 30 eiliad yn defnyddio peiriant chwilio fel Google i chwilio’r “dystiolaeth” i weld os yw’n bodoli mewn gwirionedd.

Noda dy emosiynau

Gall twyllwybodaeth sbarduno emosiynau cryf. Os yw post yn gwneud i ti deimlo’n ddig neu’n achosi sioc, yna rwyt ti’n fwy tebygol o ymgysylltu â’r post hwnnw, sy’n golygu efallai dy fod di’n helpu i rannu’r twyllwybodaeth yna ymhellach.

Os yw pennawd yn defnyddio llythrennau mawr i gyd neu eiriau fel “ffiaidd” neu “drwg”, gallai fod yn dacteg i ddylanwadu ti. Hyd yn oed os yw sefyllfa yn un drwg go iawn, mae’r math yma o iaith yn gallu bod yn arwydd bod rhywun yn gwthio barn arnat ti yn hytrach nag rhoi’r ffeithiau’n unig i ti.

Pentwr arferion: Bob tro rwyt ti’n teimlo emosiwn negyddol wrth sgrolio, cymera un anadl ddofn a gofyn, “Ydy’r post yma’n ceisio rhoi gwybodaeth i mi, neu’n ceisio cael ymateb gen i yn unig?”

Chwilia am gonsensws

Os yw stori fawr yn wir, bydd llawer o ffynonellau newyddion yn ei hadrodd. Gwiria wahanol wefannau i weld a ydyn nhw’n cytuno ar y ffeithiau. Os mai dim ond ar un cyfrif cyfryngau cymdeithasol y mae sgandal yn bodoli, bydda’n ofalus. Defnyddia adnoddau fel Full Fact neu BBC Verify i wirio’r honiadau. Gallet ti hefyd wirio ffeithiau polisïau Llywodraeth Cymru ar eu blog Cofnod Cywir.

Pentwr arferion: Pan fydd stori newyddion yn torri ar dy ffrwd cyfryngau cymdeithasol, edrycha ar wefan newyddion dibynadwy i weld a ydyn nhw’n adrodd yr un peth.

Adnabod y gwahaniaeth rhwng ffaith a barn

Gellir profi ffeithiau gyda data. Dim ond dehongliad un person yw barn. Cofia fod cyfrifon parodi hefyd yn bodoli i wneud jôcs am wleidyddiaeth. Gwiria bio cyfrif bob amser i weld os mai jôc ydyw cyn cymryd y wybodaeth o ddifrif.

Pentwr arferion: Pan fyddi di’n darllen post sy’n swnio’n rhy dda (neu’n rhy ddrwg) i fod yn wir, gwna’n arfer i bwyso ar y llun proffil a darllen llinell gyntaf y bio. Efallai bydd yn helpu ti i ddeall y bwriad y tu ôl iddo, er enghraifft, os mai jôc neu’n ddarn barn ydyw yn hytrach nag newyddion.

Archwilio ymhellach

Cer i weld adnoddau ein hymgyrch i archwilio mwy:

Cer draw i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld fideos ein hymgyrch camwybodaeth a thwyllwybodaeth:

Os wyt ti wedi gweld rhywbeth ar-lein sydd wedi achosi gofid i ti, neu rwyt ti eisiau siarad gyda rhywun, gallet ti gysylltu â’r llinell gymorth Meic. Maent yn cynnig cymorth cyfrinachol, am ddim i blant a phobl ifanc 25 a iau yng Nghymru. Cysyllta ar y ffôn neu neges WhatsApp ar 080880 23456 neu sgwrsia â chynghorwr ar-lein ar www.meic.cymru

Mae’r ymgyrch hon yn rhan o’r rhaglen Lleisiau Gwybodus ar draws y DU yn cael ei arwain gan Parent Zone a’i gomisiynu gan Ofcom i wella llythrennedd cyfryngau a gwydnwch ar-lein pobl ifanc, yn enwedig pleidleiswyr ifanc. ProMo Cymru, sy’n rhedeg TheSprout, sy’n cyflwyno’r ymgyrch yma yng Nghymru.

Exit mobile version