Site icon Sprout Cymraeg

Fy Stori: Dioddef o Dysmorphia’r Corff

Mae Ellie, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, yn rhannu ei stori o ddioddef o dysmorphia’r corff.

Beth yw dysmorphia’r corff?

Mae dysmorphia’r corff yn cael ei ddiffinio fel cyflwr iechyd meddwl, pan fydd person yn treulio llawer o amser yn poeni am unrhyw nam yn eu hedrychiad, sydd ddim yn rhywbeth mae pobl eraill yn ei weld fel arfer. Mae ystadegau yn awgrymu bod 1 ymhob 50 o bobl yn yr UDA yn dioddef o dysmorphia’r corff.

Rwy’n dioddef o dysmorphia’r corff am fod fy symptomau yn cyd-fynd â’r rhai sydd ynghlwm â’r cyflwr, gan gynnwys cymharu rhannau o fy nghorff gydag eraill, osgoi edrych mewn drych neu wyneb adlewyrchol, canolbwyntio a phoeni am ran benodol o fy nghorff, a mynd i ymdrech mawr i guddio’r namau yma.


Ydy cyfryngau cymdeithasol ar fai?

Wrth dyfu yn yr oes ddigidol yma, gall cyfryngau cymdeithasol fod yn elyn i ti o ran cymharu dy gorff gyda phobl eraill. Er mod i’n ddiolchgar iawn am y llwyfannau yma, mae rhai pethau mae dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol a phobl dwi’n adnabod wedi’i bostio wedi cael effaith ar fy iechyd meddwl wrth i mi gymharu fy nghorff gyda’u corff nhw.

Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu na fyddwn i’n dioddef dysmorphia’r corff heb rwydweithio cymdeithasol. Yn anffodus, rwy’n credu bod ein cymdeithas yn dueddol o farnu a chymharu, ond byddwn yn dadlau bod llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi cyfrannu i fy hunanhyder isel wrth greu disgwyliadau afrealistig o’r ffordd mae corff ‘i fod’ i edrych.


Effaith ar fy mywyd

Mae astudiaeth cyhoeddir gan Scientific Reports yn awgrymu bod hunanhyder yn ffactor pwysig sydd yn achosi pobl ifanc rhwng 15 a 24 i ladd eu hunain. Er nad ydw i erioed wedi teimlo’r lefel yma o iselder o ganlyn y dysmorphia corff, rwy’n deall bod fy ngweithgareddau o ddydd i ddydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol.

Rwyf wedi cael cyfnodau ble rwy’n gwrthod digwyddiadau cymdeithasol am nad ydw i eisiau gwisgo gwisg nofio mewn parc dŵr o flaen cymaint o bobl, neu ddweud na i fynd i barti pen-blwydd ffrind am nad ydw i eisiau bod o gwmpas merched tenau prydferth mewn ffrogiau tynn. Fedra i ddim gwisgo dillad tebyg gan fod fy mol wedi chwyddo neu mae fy mreichiau yn edrych yn dew fel ‘bingo wings’.

Mae dysmorphia’r corff yn frwydr gyson. Ond, rwy’n awyddus dweud, er mod i’n dal i ddioddef, rwyf wedi dysgu nad yw dy edrychiad yn cyfateb i’r hyn sydd y tu mewn i ti yn emosiynol.

Collais lawer o bwysau yn ystod y pandemig oherwydd y cyfnod clo a dim llawer o weithgareddau. Dychwelais i’r ail flwyddyn o’r Brifysgol yn y cyflwr corfforol gorau ers cyfnod hir iawn. Ond, gallaf ddweud yn onest nad ydw i erioed wedi bod yn fwy anhapus nag yr oeddwn i yn nhymor cyntaf yr ail flwyddyn, er colli’r holl bwysau. Mae dysmorphia’r corff yn cael effaith ar yr emosiynau tu mewn hefyd, yn ogystal â’r ffordd rwyt ti’n gweld dy edrychiad. Yn feddyliol, roedd llynedd yn anodd er mod i’n deneuach nag yr oeddwn cynt.


Ydy datganiadau positif yn gallu helpu?

Rwy’n ceisio adrodd datganiadau positif i fy hun wrth edrych yn y drych i geisio brwydro’r dysmorphia corff, yn hytrach nag meddwl pethau negyddol am fy hun. Rwy’n dweud pethau fel “ti’n edrych yn grêt yn y jîns yna!” neu “mae’r crop top yna yn siwtio ti” hyd yn oed os yw fy mol yn dangos ychydig. Rwy’n ceisio atgoffa fy hun wrth sgrolio drwy Instagram neu Facebook, nad yw lluniau pobl yn wir i’r ffordd maent yn edrych drwy’r adeg.

Mae’n bwysig cofio bod pobl yn postio’r darnau gorau ar Instagram a Facebook. Rwy’n ceisio atgoffa fy hun bod ongl, golau ac offer golygu yn gyfranwyr cryf i sut mae llun yn edrych. Mae cenfigen yn rhywbeth rwy’n dioddef ohono weithiau, cenfigen am y ffordd mae eraill yn edrych o gymharu â fi, ond rwy’n gweithio ar ganolbwyntio ar fy hun a’r hyn sydd yn gwneud i mi deimlo’n dda am fy hun.


Cael cefnogaeth

Os wyt ti’n credu dy fod di’n dioddef o dysmorphia’r corff neu faterion hunanhyder fel arall, dyma gyfle i dy atgoffa nad ti yw’r unig un! Mae’n gyffredin iawn, yn enwedig ymysg pobl ifanc, ac er efallai na fydd yn diflannu’n gyfan gwbl, ceisia atal hyn wrth fod yn garedig i dy hun. Fyddet ti’n gwneud y fath sylwadau am rywun arall? Na? Yna stopia meddwl fel yna am dy hun.

Gwybodaeth berthnasol

Os wyt ti angen rhywun i siarad â nhw, gallet ti siarad â Meic. Meic yw’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor, ac eiriolaeth i bobl ifanc yng Nghymru. Mae posib cysylltu â chynghorydd Meic am ddim, bob dydd, o 8yb tan hanner nos, ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.

Am wybodaeth bellach ar dderbyn cefnogaeth iechyd meddwl, ymwela â thudalen gwybodaeth iechyd meddwl TheSprout.

Exit mobile version