Site icon Sprout Cymraeg

Cyfle gyda thâl: Galw Ysgogwyr Newid Ifanc (16-25) yng Nghymru a Lloegr!

Ydy iechyd meddwl pobl ifanc yn bwysig i ti ac wyt ti eisiau gwneud gwahaniaeth? Rydym yn chwilio am 8 person ifanc brwdfrydig (4 o Gymru a 4 o Loegr) i ymuno gyda “Diwrnod Gweithredu Ieuenctid: Ein Meddyliau Ein Dyfodol” mewn cyfle gyda thâl!

Dyma dy gyfle i:

Pwy ydym ni

Youth Access yw’r rhwydwaith cenedlaethol yn Lloegr ar gyfer cyngor a gwasanaethau cwnsela a fu’n rhan o 5 mlynedd gychwynnol prosiect Ein Meddyliau Ein Dyfodol. Eu nod ydy sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cael cefnogaeth am ddim wrth iddynt ddatblygu o’u plentyndod a’u harddegau i fywyd fel oedolyn gan wasanaethau cyngor yn y gymuned a gwasanaethau cwnsela sy’n parchu eu hawliau ac yn diwallu eu hanghenion fel unigolion.

Mae ProMo Cymru yn fudiad nid-er-elw yng Nghymru, ac roeddent hefyd yn rhan o 5 mlynedd gychwynnol prosiect Ein Meddyliau Ein Dyfodol. Mae ProMo yn defnyddio eu profiad o weithio gyda phobl ifanc er mwyn creu newidiadau creadigol er budd cymdeithas.

Be’ fyddi di’n gwneud

Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae pobl ifanc wedi cydweithio gyda mudiadau ieuenctid ac iechyd meddwl er mwyn siapio gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y DU. Er mwyn parhau â’r gwaith mae Diwrnod Gweithredu Ieuenctid “Ein Meddyliau Ein Dyfodol” yn ddiwrnod llawn dop o weithgareddau ym Mryste ddydd Sadwrn 8fed Chwefror 2025.

Dyma dy gyfle i helpu ni adlewyrchu ar ddatblygiad y prosiect hyd yn hyn, rhannu dy brofiadau a’th syniadau ar gyfer ymateb i heriau iechyd meddwl pobl ifanc, a dathlu’r gwaith arbennig mae pobl ifanc wedi’i gyflawni er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl.

Byddwn yn talu costau teithio a llety felly’r oll sydd angen i ti wneud yw dod a dy frwdfrydedd a dy syniadau creadigol! Ni fyddi di yn rhannu gyda phobl ifanc eraill, bydd gan bawb ystafell eu hunain.

Er mwyn paratoi ar gyfer y digwyddiad bydd pedwar sesiwn ar-lein ar ddyddiau Mercher rhwng 4:30-6:30yh. Byddwn yn dod at ein gilydd i groesawu pawb cyn cynllunio a dylunio’r Diwrnod Gweithredu, cyn adrodd yn ôl a chynllunio’r camau nesaf ar gyfer y dyfodol.

Amserlen digwyddiadau:

Plîs sicrha dy fod ar gael ar bob un o’r dyddiadau a’r amseroedd uchod cyn i ti wneud cais.

Sut fyddi di’n elwa o hyn?

Mae hwn yn fwy na chyfle i gwrdd a chael hwyl – mae’n gyfle gwych i fuddsoddi yn dy hun a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol:

Dyma dy gyfle i ddatblygu dy hun, cael hwyl a chael effaith gwirioneddol ar gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc!

Os ydi hyn yn swnio fel y profiad i ti, plîs llenwa’r ffurflen gais byr. Byddem wrth ein bodd clywed pam rwyt ti eisiau cymryd rhan (bydda’n greadigol!)

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Cysylltu

Oes gen ti gwestiynau? Ddim yn siŵr os ydi’r profiad i ti? Cysyllta i holi mwy!

Os wyt ti angen cefnogaeth gyda’r cais neu eisiau ymgeisio mewn ffordd arall heblaw am y ffurflen ar-lein, e-bostia i ddweud.

Os wyt ti’n byw yng Nghymru, plîs e-bostia Halyna, halyna@promo.cymru gyda dy gwestiynau.

Os wyt ti’n byw yn Lloegr, plîs e-bostia Sarah, sarahu@youthaccess.org.uk gyda dy gwestiynau.

Rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gen ti!

Dyddiad cau

Y diwrnod olaf i wneud cais yw 5yh ddydd Gwener 4ydd Hydref. Byddwn yn cysylltu gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus dros e-bost ar neu cyn dydd Gwener 18fed Hydref.

Exit mobile version