Mae Ellie, myfyriwr trydedd flwyddyn Prifysgol Caerdydd, yn rhannu ei barn am Depop ar gyfer ymgyrch Y Dyfodol Yn Ein Dwylo.
Caru siopau elusen
Dwi’n caru siopa’n gynaliadwy; dwi wrth fy modd gyda siopau elusen a sêl cist car.
Dwi’n meddwl mai fi a’m ffrindiau yw’r rheswm eu bod yn gwneud mor dda. Fedrwn ni ddim dweud na i eitemau dillad newydd, hwyl, weddol rad a chynaliadwy… wps.
Ond mae’n buddio elusennau, felly mae’n beth da dydy? Ond ddim yn dda i fy nghyfrif banc…
Depop neu Defflop
Ond pan ddaw at brynu’n ail-law ar wefannau fel Depop, dwi’n meddwl weithiau os yw hyn yn troi’n fwy o fflop.
Mae gost wedi cynyddu, ac unrhyw beth efo tag ‘vintage’ wedi treblu yn ei bris.
Dwi wedi sylwi, os nad oes gen ti ddilyniant mawr, mae’n anodd gwerthu a gwneud elw, gan fod Depop yn cymryd 10% gen ti am bob gwerthiant.
Yn bersonol, dwi ddim yn defnyddio Depop bellach gan fod y prisiau wedi codi’n llawer rhy uchel i’m nghyfrif banc. Mae posib darganfod pethau tebyg mewn siopau elusennau yn llawer rhatach.
Dwi’n teimlo bod hyn yn brofiad sydd yn cael ei rannu gan nad ydw i’n clywed pobl yn brolio fel yr oeddent. Ond hei, efallai mai fi yw hynny’n unig.
Ond, mae yna ochr bositif i’r wefan, gan mai’n debyg mai hwn yw’r wefan ail-law fwyaf poblogaidd, sydd yn anhygoel. Mae wir yn dangos i bobl bod dillad ail-law yn gallu cael eu gwisgo, ac nid eu taflu yn unig. Ond, mae’n siom mawr fod cost mor uchel i hynny, felly mae llawer o bobl yn dewis prynu eitemau ffasiwn sydyn ‘rhatach’ o hyd.
Dewis gwahanol i Depop
Paid poeni. Os wyt ti’n cytuno bod prisiau Depop yn ormod, dwi wedi darganfod dewis gwahanol, neu rywbeth fedri di ddefnyddio ar yr ochr beth bynnag.
Yn cyflwyno Vinted.
Cychwynnodd Vinted tua 10 mlynedd yn ôl, ond mae wedi dod yn fwy adnabyddus yn ddiweddar. Mae’n caniatáu i ti werthu yn ddiogel, mae gwerthwyr yn gallu dewis y pris postio, ac nid oes ffi i’r gwerthwr.
Dwi hefyd yn teimlo’n eithaf hyderus fel rhywun sy’n prynu trwy Vinted. Pan dwi’n gweld rhywbeth, dwi’n gwybod yn union beth fydd yn cyrraedd. Dwi’n ansicr gyda apiau eraill am beth fydd yn dod yn y post… os bydd unrhyw beth yn cyrraedd o gwbl!
Dwi eto i gael profiad drwg gyda Vinted, a gobeithio y bydd hyn yn parhau gan dwi’n credu gall hwn fod yn app fwy llwyddiannus na’i gystadleuaeth.
Felly, os nad wyt ti wedi lawr lwytho Vinted yn barod, ac rwyt ti eisiau dillad rhad a chynaliadwy gan amrywiaeth o frandiau gwahanol, heb brisiau’r stryd fawr, yna rho dro arni!
Gwybodaeth Berthnasol
Mae’r flog hon yn rhan o’r ymgyrch Y Dyfodol yn Ein Dwylo, sydd yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Bloedd Amgueddfa Cymru. Mae’r rhaglen gydweithredol yma yn gweithio gyda rhai 16-25 oed i arbrofi, creu ac arloesi.
Darllen mwy am yr ymgyrch