Site icon Sprout Cymraeg

Chwilio am Arweinwyr Rhyngwladol y Dyfodol

Mae’r Cyngor Prydeinig yn chwilio am aelodau newydd i ymuno yn ei raglen polisi ac arweinyddiaeth ryngwladol.

Mae rhaglen Cysylltu Arweinwyr y Dyfodol y Cyngor Prydeinig yn rhwydwaith fyd-eang o ddarpar arweinwyr polisi.

I fod yn gymwys rhaid bod yn 18-25 oed, gyda syniad polisi fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth yng Nghymru, ledled y DU a thu hwnt. Bydd rhaid i ti fynychu’r rhaglen deg diwrnod o 21 Hydref i 1 Tachwedd 2019.

Mae hwn yn gyfle datblygiad proffesiynol gwych i unrhyw un sydd yn awyddus i ddysgu polisi ac arweinyddiaeth uwch, cael mynediad at arweinyddion byd-eang a rhai sydd yn chwilio am gysylltiadau dros y byd.

Gwledydd sydd yn cymryd rhan: Canada, Yr Aifft, India, Indonesia, Cenia, Mecsico, Moroco, Nigeria, Pacistan, Gwlad Pwyl, Tiwnisia, Deyrnas Unedig ac America.

Y manylion

Fel aelod o Gysylltu Arweinwyr y Dyfodol, byddi di’n cael mynediad i raglen breswyl deg diwrnod o ddatblygiad polisi ac arweinyddiaeth uwch yng Nghanolfan Møller, Coleg Churchill, Prifysgol Caergrawnt.

Bydd aelodau yn rhan o grŵp sy’n cynnwys arweinyddion ifanc rhyfeddol o ledled y byd, yn trafod heriau byd-eang cyfoes yn San Steffan ac yn cael cwrdd ag arweinyddion rhyngwladol ysbrydoledig. Bydd y Cyngor Prydeinig yn talu costau teithio, llety a bwyd ac mae’r rhaglen yn gwbl hygyrch.

Llynedd bu aelodau Cysylltu Arweinwyr y Dyfodol yn cyfarfod gyda chyn Ysgrifenyddion Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ac arweinyddion y byd eraill. Cyflwynwyd syniadau polisi i Weinidogion yn 10 Stryd Downing ac ers cymryd rhan yn y rhaglen mae bron pob un aelod o’r DU wedi cael mynediad i gyfle datblygiad proffesiynol rhyngwladol wedi’i ariannu’n llawn.

Gwneud cais ar-lein a dyddiad cau

Mae’r holl fanylion am y rhaglen Cysylltu Arweinwyr y Dyfodol ar gael ar y wefan.

Bydd cyfranogwyr yn cael eu dewis ar draws y DU (Cymru, Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr). Bydd aelodau eraill yn ymuno o Ganada, Yr Aifft, India, Indonesia, Cenia, Mecsico, Moroco, Nigeria, Pacistan, Gwlad Pwyl, Tiwnisia ac America.

Dyddiad cau ceisiadau ar ddydd Llun, 6 Mai, 23:59yh, amser y DU.

#CysylltuArweinwyrYDyfodol

Exit mobile version