Site icon Sprout Cymraeg

Beth yw Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd?

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghaerdydd. 

Mae Tîm Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd wedi creu animeiddiad sydd yn arddangos y cymorth sydd ar gael i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws y ddinas. Mae’r fideo isod yn amlygu’r amrywiaeth o wasanaethau presennol a newydd sydd yn cael ei gynnig, yn galluogi’r tîm i helpu mwy o bobl nag erioed o’r blaen.

Mae’r tîm wedi tyfu ers lansiad Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd a chroesawyd tîm o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Arbenigwyr Iechyd Meddwl Cynradd ac Ymgynghorwyr Anabledd Helpu Teuluoedd.

Porth i Deuluoedd Caerdydd

Mae gan y gwasanaeth linell gymorth arbennig, Porth i Deuluoedd Caerdydd, sydd yn derbyn dros 12,000 o alwadau ffôn ac e-byst y flwyddyn, yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar y canlynol:

Gwybodaeth bellach

Ymwela â www.teuluoeddcaerdydd.co.uk am wybodaeth bellach neu cysyllta â’r tîm yn uniongyrchol: 

E-bost: CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk

Ffôn: 03000 133 133

Facebook: @CFASCACID

Twitter: @CardiffCFAS

Exit mobile version