Mae Sain Ffagan yn un o saith amgueddfa sydd yn cael eu rheoli gan Amgueddfa Cymru, ac mae dau ohonynt yng Nghaerdydd. Rydym yn archwilio cynaliadwyedd Sain Ffagan, y gorffennol a’r presennol, fel rhan o’n hymgyrch Y Dyfodol Yn Ein Dwylo.
Melin Wlân Esgair Moel
Adeiladwyd Melin Wlân Esgair Moel yn wreiddiol ym Mhowys yn 1760 mewn cyfnod pan roedd y diwydiant gwlân yn un o’r pwysicaf yng Nghymru. Symudodd i Sain Ffagan yn 1949.
Mae’r felin yn cael ei ddefnyddio gan Dewi, gwehydd yr Amgueddfa. Mae’n creu bob math o nwyddau gwlân sydd yn cael eu gwerthu yn siop anrhegion yr amgueddfa ac o gwmpas Cymru.
Mae’r broses gyfan o droi gwlân dafad yn nwyddau gwlân yn cymryd tua 20 awr. Rhaid golchi, lliwio, cribo, nyddu, a gwehyddu’r gwlân.
Heddiw, modur trydan sy’n pweru’r peiriannau defnyddir i greu’r eitemau gwlân. Cynt roedd hyn yn cael ei wneud gan olwyn ddŵr.
Gweithdy’r Clocsiwr
Yn Sain Ffagan mae yna weithdy clocsiwr clyd ble gellir gweld Geraint, clocsiwr yr Amgueddfa, wrth ei waith. Mae Geraint yn un o’r unig ddau ym Mhrydain, ac mae’n parhau i greu clocsiau yn yr un hen ffordd draddodiadol â Tommy James, perchennog gwreiddiol y gweithdy.
Mae Geraint yn cychwyn wrth fesur dwy droed y person. Mae’n gwneud hyn gan fod gan bawb un droed sydd ychydig yn fwy na’r llall! Yna, mae’n defnyddio pren a lledr i greu clocsiau, sydd yn cymryd tua 6 mis.
Mae posib archebu clocsiau traddodiadol gan Geraint, wedi eu mesur yn arbennig i ti, mewn amrywiaeth o liwiau.
Y goedwig a’r bywyd gwyllt
Mae Sain Ffagan yn le gwych i archwilio bywyd gwyllt Cymru ac i drochi dy hun mewn natur.
Cer i chwilio’r goedwig wrth fynd am dro, neu ymweld â’r guddfan adar ble gellir gwylio adar y goedwig yn bwydo drwy’r flwyddyn.
Yn yr haf, maent yn cynnal nosweithiau teithiau ystlumod ble gellir gweld ystlumod yn hedfan o gwmpas yr Amgueddfa wrth iddi nosi.
Gwybodaeth Berthnasol
Mae’r flog hon yn rhan o’r ymgyrch Y Dyfodol yn Ein Dwylo, sydd yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Bloedd Amgueddfa Cymru. Mae’r rhaglen gydweithredol yma yn gweithio gyda rhai 16-25 oed i arbrofi, creu ac arloesi.