Pethau Rhad ac Am Ddim i Wneud yng Nghaerdydd 29 Tach – 5 Rhag

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Dymunwn Nadolig Llaaaaweeeeen!!! Wyt ti wedi cael digon ar y caneuon Nadolig eto? Gan nad yw hi’n ddiwrnod ‘Dolig eto, gobeithiaf ddim! Beth wyt ti am wneud yn y cyfamser?

Dyma ychydig o syniadau i’w wneud yng Nghaerdydd yr wythnos hon, sy’n caniatáu i ti gadw’r ceiniogau i brynu anrhegion Nadolig i’r teulu a ffrindiau.

Efallai byddi di’n ddiolchgar bod pethau ychydig yn ddistawach nawr yn nhermau’r calendr chwaraeon, felly os oes rhaid i ti fynd allan i oerni dinas Caerdydd, mae’n debyg bydd yna set ar y trên i ti.

Pobl Angori – Rhagolwg

Dydd Iau, 29 Tach, 6-8yh – Y Senedd – Am ddim

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei hysbysu fel arddangosfa gelwir yn ‘Senedd y Bobl’ ac mae’n cael ei gefnogi gan y tîm yma yn ProMo-Cymru. Mae’n rhagolwg o’r arddangosfa fydd yn aros yn Oriel y Senedd hyd at 14 Rhagfyr. Mae’n cynnwys wynebau a lleisiau pobl o Ferthyr a De Glan-yr-afon Caerdydd. Ewch i Eventbrite am docynnau.

Boreau Creadigol: Restart gyda Stephen Peckham

Dydd Gwener, 30 Tach, 8:30yb – Milgi – Am ddim

Os wyt ti’n berson creadigol, mae’r digwyddiadau Boreau Creadigol yn le gwych i ti. Felly coda dy hun o’r gwely yna a cher draw i’r Milgi. Dwi’n siŵr byddi di’n gallu cael brecwast blasus figan yno. Siaradwr y mis yma ydy Stephen Peckam, sydd wedi dilyn sawl llwybr gyrfa a bellach wedi ail gychwyn fel gwerthwr planhigion hunan cyflogedig. Mae’n swnio fel sgwrs ysbrydoledig iawn, felly – os byddaf yn gallu dihuno – welai di yno…. Tocynnau ar gael nawr ond efallai byddant wedi gwerthu allan erbyn i ti ddarllen hwn.

Beth am fynd draw i’r Artes Mundi?

Tan ddiwedd mis Chwefror – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – Am ddim

Bob blwyddyn mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal cystadleuaeth celf ryngwladol wych, yr Artes Mundi. Dyma’r 8fed Artes Mundi, ac mae’n dychwelyd yn well nag erioed. Os wyt ti’n chwilio am rywbeth i’w wneud, ar ddêt neu eisiau cael mam-gu allan o’r tŷ, yna mae yna bethau gwaeth i’w gwneud. Cer i lawr yno, ond nid oes brys. Mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd wrth ochr yr Amgueddfa hefyd felly gallet ti wneud y ddau.

‘Secret Policeman’s Ball’ Amnest

Dydd Llun, 3 Rhag, 7yh – Y Babell Fawr – £5

Mae Cymdeithas Amnest Prifysgol Caerdydd yn addo noson o gomedi, canu ac adloniant – a gorau oll, er mai dawns yw hon, ti’n cael gwisgo unrhyw beth hoffet ti. Dyma’r digwyddiad Facebook, a dyma’r digwyddiad ar CardiffStudents.com

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd