Pethau Rhad ac Am Ddim i Wneud yng Nghaerdydd 25-31 Hydref

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Penwythnos Calan Gaeaf, a straeon arswydus- Bŵ!

A rheswm arall i ddathlu, hanner tymor, iahŵ!

Gobeithio bydd dy hanner tymor di yn well na fy nghynnig i ar odli! Paid diflasu – cer allan a chael hwyl gyda’n canllaw i’r hyn sydd yn digwydd yng Nghaerdydd dros yr hanner tymor.

Cwis Fuel

Iau, 25 Hydref – 7-10yh – Clwb Fuel Rock – £1

Wyt ti’n ddigon metel i wneud y rownd chwaraeon? Yn ddigon caled i’r rownd fflagiau? Wyt ti’n gallu moshio’n frwdfrydig pan ddaw’r cwestiynau disgwyliedig am operâu sebon? Wyddwn i ddim pam bod clwb roc mwyaf caled Caerdydd yn cynnal cwis pop, ond dyna ni! Digwyddiad Facebook. Digwyddiad Facebook.

Diwrnod Agored Prifysgol Caerdydd

Sadwrn, 27 Hydref – Prif Gampws Prifysgol Caerdydd

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim yn dechnegol. Beth am fusnesu o gwmpas y brifysgol, hyd yn oed os nad wyt ti’n meddwl mynd yno. Mae’n debyg byddi di’n cael ychydig o nwyddau am ddim, ac mae’n ddiwrnod allan braf. Beth am gymryd taith campws??? Tocynnau yma.

Nosweithiau Animeiddio Caerdydd (Animation Frights)

Sadwrn, 27 Hydref – Canolfan Gelfyddydau Chapter – £5.10 – Myfyriwr neu Blant

Wooooo arswydus! Mae’r animeiddiwr Dani wedi pigo llwyth o ffilmiau byr i ti wledda arnynt yr wythnos hon gyda Nosweithiau Animeiddio Caerdydd arbennig ar gyfer Calan Gaeaf. Cadwa le nawr.

Calan Gaeaf Canoloesol – Y Ddrysfa Ddychrynllyd

Sadwrn, 27 Hydref – 11yb-4yh – Castell Caerffili – £5.10 Myfyriwr neu Blentyn

Efallai bod hwn ychydig yn bell i rai, a pwy sy’n dathlu Calan Gaeaf yn y dydd? Efallai un da i fynd i gyda brawd neu chwaer fach, i’w dychryn gyda hanesion gwraig marw Gilbert De Clare, y Wraig Werdd, sydd yn crwydro’r castell hyd heddiw… ac yna mynd ar goll yn y ddrysfa hefyd. Gwybodaeth bellach ar wefan Cadw.

Cathod Mawr

Hanner Tymor – Mermaid Quay, Bae Caerdyd

Teigrod Lego enfawr! Llewod Lego enfawr! Panther Lego enfawr. Ydy pethau’n glir nawr? Mae dros 650,000 o frics Lego yn cael eu defnyddio i adeiladu’r cerfluniau anhygoel yma, gan yr adeiladwyr Lego proffesiynol Bright Bricks. Mae’r arddangosfa yng nghalon y Bae yn Sgwâr Tacoma Mermaid Quay. Darllen mwy.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd