Pethau Rhad Ac Am Ddim i Wneud Yng Nghaerdydd: 20-27 Medi

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Dyma’r wythnos mae pob trigolyn Caerdydd yn ei ofni, gan fod y myfyrwyr yn ôl yn y Brifysgol! Ddim yn hoff o fynd i ddigwyddiadau Wythnos Y Glas gyda llwyth o fyfyrwyr er mwyn cael beiros a phitsa am ddim? Rho dro ar un o’r digwyddiadau rhad neu am ddim yma.

Drysau Agored – Ysgol Howell, Llandaf

21 Medi – 10yb – Am ddim

Heb os nac oni bai, Ysgol Howell ydy’r ysgol fwyaf ecsgliwsif Caerdydd, yr hynaf hefyd mae’n debyg, wedi’i adeiladu yn 1858. Yn un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous Drysau Agored, dyma gyfle i gael busnesu o gwmpas yr ysgol. Mae digwyddiadau eraill Drysau Agored yr wythnos hon yn canolbwyntio ar sawl o eglwysi Caerdydd.

Cryfach Gyda’n Gilydd – Cyfarfod y tîm ac archwilio #EinGofod

Sadwrn 22 Medi – 1-6yh (galw draw) – Canolfan Mileniwm Cymru – Digwyddiad Sprout

Chwarae gêm o ping-pong, cyfarfod â phobl ifanc a’r tîm Sparc o Blant y Cymoedd, a dysgu popeth am Cryfach Gyda’n Gilydd.

Yn ystod hanner tymor mis Mai, meddiannodd Plant y Cymoedd Lefel 5 adeilad Blavatnik y Tate Modern fel rhan o raglen Cyfnewid y Tate. Llwyddodd pobl ifanc, gyda chefnogaeth y tîm Sparc draw ym Mhlant y Cymoedd, i greu clwb ieuenctid dros dro yn cael ysbrydoliaeth o’r ganolfan ieuenctid yn Rhydyfelin sydd bellach wedi cau.

Fel rhan o bartneriaeth Cryfach Gyda’n Gilydd Canolfan Mileniwm Cymru a Phlant y Cymoedd, mae’r clwb ieuenctid dros dro yn dod i’r gofod yng nghyntedd y Ganolfan. Mae croeso i rywun alw draw – cael golwg o gwmpas, chwarae cardiau a chael sgwrs gyda’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan.

Ardal Hwyl y Glas

22 Medi – 10-4yh – Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd – Am ddim

Llwyth o gemau gwirion i chwarae yn Undeb y Myfyrwyr. Rwyf wedi penderfynu peidio cynnwys y mwyafrif o ddigwyddiadau Wythnos y Glas ar y rhestr hon gan mai digwyddiadau i fyfyrwyr ydynt. Os wyt ti’n fyfyriwr yna mae’n debyg dy fod di’n ymwybodol o’r digwyddiadau yn barod, a da iawn ti am ddod o hyd i’r Sprout mor sydyn ar ôl cyrraedd. Ond, mae hwn yn edrych mor dda fel nad allwn ei adael oddi ar y rhestr. Mae’n debyg nad oes rhaid i ti fod yn fyfyriwr i fynd, felly cer draw a chael hwyl. Gwybodaeth yma.

Comedi yn y Tiny Rebel

24 Medi – 8:30yh – Tiny Rebel – Talu faint wyt ti eisiau

Mae yna restr wych o berfformwyr yn y noson comedi yma. Yn fy marn i mae Will Palmer yn ddigrifwr gwych. Frank Foucault yw’r prif berfformiwr, a’i dyna ei enw go iawn? Dwi ddim yn sicr! Efallai cawn glywed am garchar. Duw a ŵyr. Ond ti sydd yn dewis beth i’w dalu, a dyma un o dafarndai mwyaf trendi’r dref. Cer draw i Facebook am wybodaeth.

Sialens UKRO

27-29 Medi – Plas Roald Dahl – Am ddim

Sialens Sefydliad Achub y Deyrnas Unedig. Mae timau o’r gwasanaeth tân ac achub yn cystadlu i gwblhau ymarferion yn erbyn y cloc. Byddant yn perfformio amrywiaeth o ymarferiadau gan gynnwys torri dymi allan o gar ac achubiad dŵr. Ac nid oes rhaid talu i wylio chwaith. Gwybodaeth bellach yma.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd