Pethau Rhad Ac Am Ddim i Wneud Yng Nghaerdydd: 16-22 Awst

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Dyma’r wythnos pan fydd nifer o bobl ifanc 18 oed yn dathlu canlyniadau Lefel-A rywsut, hyd yn oed os nad aeth pethau’n dda iawn! Os nad wyt ti eisiau cymryd rhan yn y parti enfawr, efallai byddai’n well osgoi canol y dref ar y penwythnos. Ac felly, dyma gymorth gan theSprout gyda chanllaw o bethau rhad neu am ddim i’w gwneud heb orfod wynebu pobl mewn ffrogiau parti a hwdîs gadael ’18.


Leaning Into The Wind

17-23 Awst, amseroedd amrywiol – Canolfan Gelfyddydau Chapter – £5.10 (PG)

Mae yna ddetholiad gwych o ffilmiau yn cael eu dangos yn y Chapter y mis hwn, o ffilmiau mawr y swyddfa docynnau fel Incredibles 2 a Mamma Mia 2, i’r ffefrynnau wedi’u hanimeiddio fel The Iron Giant a The Pirates gan Aardman. Ond mae un o’r ffilmiau yma yn sefyll allan i mi: y ffilm ddogfen wallgof yma am un o artistiaid blaenaf Prydain sydd yn parhau i fod yn fyw. Mae Andy Goldsworthy yn gweithio gyda cherrig, glaw, dail a choed i greu celf sydd yn cynnwys natur a’r corff mewn ffyrdd newydd. Mae’n ymddangos fel rhywbeth prydferth i’w wylio. Tocynnau ar wefan Chapter.

Sul Nofio Diogel

19 Awst 2:45yp – Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd – Am ddim (7-14 oed)

Wyt ti wedi bod yn nofio fwy dros yr haf nag yr wyt ti’n arferol? Nofio broga yn Ynys y Barri? Plymio yn Lido Ponty? Efallai hoffet ti ddysgu ychydig o sgiliau ychwanegol. Gwers nofio am ddim ar ddydd Sul yng nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. Darparir siwt wlyb i ti. Cadwa le yma a manylion pellach yma.

Comedi Howl Awst

19 Awst 8yh – Tramshed – £5 (18+) – Digwyddiadau Sprout

Howl Comedy Festival

Wyt ti wedi sylweddoli bod comedi wedi bod yn brin iawn yng Nghaerdydd y mis hwn? Mae fel petai goreuon talent comedi’r ddinas, gan gynnwys Lorna, gwesteiwraig arferol Howl, wedi ymlusgo draw i Gaeredin i geisio’u lwc yng ngŵyl comedi mwyaf y byd. Ond nid oes rhaid i ti boeni, bydd yna westeion gwych yn ymddangos yn eu lle. Archeba docyn ar JokePit.

Rhaglen Dechrau Arni Mewn Chwaraeon – Ymddiriedolaeth y Tywysog

20-24 Awst, 9:30yb – 4yp – Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd – Digwyddiadau Sprout

Cwrs hyfforddi ar y rhestr digwyddiadau? Mae’n debyg bod hwn yn achosi tipyn o benbleth. Rwyf wedi bod draw i’r diwrnod blasu ac mae’n edrych fel wythnos anhygoel, creda di fi. Mae’n anarferol cael dweud dy fod di wedi bod yn padlfyrddio, chwarae futsal, hyfforddi pêl droed, dysgu tenis gyda hyfforddwr proffesiynol a magu sgiliau coginio. A phopeth yn yr un wythnos! Bron byth tybiaf – a byth am ddim yn bendant! Cofrestra’n sydyn,, niferoedd prin o lefydd sydd ar ôl.

Mwynha dy hun!


Yn chwilio am ddigwyddiadau pellach? Beth am edrych ar dudalen digwyddiadau theSprout am wybodaeth gyfoes. Cofia ddod yn ôl wythnos nesaf am fwy o bethau gwych i wneud yng Nghaerdydd fydd ddim yn torri’r banc.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd