Pethau Rhad ac Am Ddim i Wneud yng Nghaerdydd 15-21 Tachwedd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Croeso unwaith eto i gasgliad wythnosol y Sprout o ddigwyddiadau rhad ac am ddim Caerdydd yr wythnos hon. Rydym bellach hanner ffordd drwy fis Tachwedd, i ble aeth y flwyddyn? Gobeithio bod 2018 wedi bod yn un da i ti.

Rhaid i mi gyfaddef rhywbeth. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf mae yna gemau rygbi a phêl droed wedi bod bob penwythnos bron. Tra nad yw’r digwyddiadau yma yn ymddangos ar y rhestr digwyddiadau rhad yma, maent yn cael effaith ar ba mor brysur ydy Caerdydd. Efallai y byddai’n well gan rai pobl osgoi’r ffyrdd a’r rheilffyrdd ar y diwrnodau yna, felly o hyn ymlaen byddaf yn sôn amdanynt i ti fod yn ymwybodol y bydd Caerdydd yn brysur.

Digwyddiadau mawr yr wythnos hon:

  • 1. Cymru v Denmarc (pêl droed) – Dydd Gwener 16 Tachwedd – 7:45yh – Stadiwm Dinas Caerdydd
  • 2. Cymru v Tonga (rygbi) – Dydd Sadwrn 17 Tachwedd – 2:30yp – Stadiwm Principality

Nadolig yn dod i Gaerdydd

Dydd Iau 15 Tachwedd – 4:30-7:30yh – Canol y Ddinas

Dyma gychwyn swyddogol y tymor Nadoligaidd! Cer draw i weld Siôn Corn a mynychu agoriad swyddogol Gŵyl y Gaeaf blynyddol Caerdydd gyda sglefrio iâ! Mae’r farchnad Nadolig yn agor dydd Iau hefyd. Gwylia amrywiaeth o berfformiadau o gwmpas y ddinas wrth i Gyngor Caerdydd gynnig gwledd fawr, a syfrdanu ar oleuadau Nadolig y castell. Darllena amdano yma.

Coryddion Eglwys Gadeiriol Llandaf mewn Cyngerdd

Dydd Sul 18 Tachwedd – 5-6yh – Eglwys Gadeiriol Llandaf

Image credit: llandaffcathedral.org.uk

Mae bechgyn côr un o eglwysi maestrefol gorau’r ddinas yn teithio i Sweden flwyddyn nesaf ac yn cynnal sioe fawr i godi arian. Nid oes rhaid talu i fynd i mewn ac os wyt ti’n mwynhau yna gallet ti dalu i gael allan! Mwy ar y digwyddiad Facebook.

Pen-blwydd 1af Howl

Dydd Sul 18 Tachwedd – Tramshed – £7

Mae yna flwyddyn gyfan wedi bod ers i arbenigwr y sîn gomedi lleol, Lorna Pritchard, sefydlu noson gomedi yn y Tramshed. Mae’r tocynnau cynnar wedi mynd yn barod, ond mae posib mynd yno am £7 o hyd. Dylai fod yn noson dda ac mae’r Tramshed yn lleoliad braf beth bynnag. Dwi’n hoff iawn o’r wafferi siocled bach sy’n cael eu gwerthu yn y siop Bwylaidd dros y ffordd. Darllena fwy am y perfformwyr ar y tudalen digwyddiad Facebook neu Jokepit i brynu tocyn.

Parti Lansio Radio Platfform

Dydd Mawrth 20 Tachwedd – 5:30-7yh -Canolfan Mileniwm Cymru

Digwyddiad yr wythnos, wrth i Radio Platfform daro’r tonau awyr mewn ffordd drawiadol! Diodydd, tiwniau a chwmni da wrth i’r orsaf radio ieuenctid newydd ddathlu ei agoriad swyddogol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Paid colli allan!

Ffair Swyddi Caerdydd

Dydd Mercher 21 Tachwedd – 10yb-2yp- Neuadd y Ddinas

Cer draw gyda dy CV i chwilio am swydd yn y ffair swyddi rheolaidd yma yn Neuadd y Ddinas.

Taith Gerdded Natur Parc y Rhath

Mercher 21 Tachwedd – 2:30-3:30yp -Parc y Rhath

Mae Cymdeithas Bywyd Gwyllt a Chadwraeth Prifysgol Caerdydd yn cyfarfod i leddfu’r straen o waith prifysgol a mynd ar daith cerdded ymlaciol drwy barc mwyaf adnabyddus y ddinas. Mae’n debygol y byddi di o gwmpas pobl sydd yn gwybod cryn dipyn am yr adar a’r planhigion (y fflora a’r ffawna) yn y parc. Edrycha yma.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd