Pethau Rhad ac Am Ddim i Wneud yng Nghaerdydd 11-17 Hydref

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Dyma wythnos brysur arall. Yn cychwyn hanner ffordd drwy Ŵyl Ffilm LHDT+ y Wobr IRIS, ac yn gorffen ar gychwyn gŵyl gerddoriaeth Sŵn. Ond nid oes rhaid i ti fynd i chwilota am bethau rhad i’w gwneud yr wythnos hon, gan fod pob un o’r digwyddiadau ar ein rhestr am ddim!

Achub y Rhino Affricanaidd gydag Ymddiriedolaeth Natur Caerdydd

Iau, 11 Hydref – 7:30yh – Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Darlithfa Wallace – Am ddim.

Bydd Mike Bruford, Athro Bioleg Cadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn manylu prosiect wedi’i greu i gael gwell dealltwriaeth o sut i achub y rhino. Bydd Mike yn egluro ymdrechion cadwraethol presennol y rhino du a’r rhino gwyn, yn ogystal ag ymdrechion y dyfodol.

Am wybodaeth bellach e-bostia: info@wtswwCardiff.org.uk

Nosweithiau Animeiddio Caerdydd Hydref ’18 – Rhifyn 4ydd Pen-blwydd

Iau, 11 Hydref – 7:30-11:30yh – Kongs Caerdydd – Am ddim

Dychweliad y noson animeiddiad gorfoleddus. Wedi mynd o nerth i nerth ers pedair blynedd. Cyfle i weld ffilmiau byr o Japan, yr Eidal ac America, ac efallai mwynhau darn o deisen pen-blwydd. Digwyddiad Facebook.

Public Uni 21

Gwener, 12 Hydref – 7:30-9:30yh – Canolfan Gelfyddydau Chapter – Am ddim

Pa fath o bethau sydd yn digwydd yn y prifysgolion? Cyfle i ddarganfod yn Public Uni, ble bydd academyddion yn rhoi darlithoedd byr ar eu hymchwil presennol. Edrycha ar dudalen Facebook Public Uni am fanylion.

Gŵyl Ieuenctid LHDT+ Pride Cymru

Sadwrn, 13 Hydref – 9:30yb – 2:30yp – Cineworld Caerdydd – Am ddim

Gwybodaeth, cymdeithasu a ffilmiau byr! Rhan o’r ŵyl Gwobr IRIS cyfredol, sydd yn digwydd drwy’r wythnos yn Cineworld (darllena rhagolwg Ed o’r ŵyl yma). Mae’r diwrnod yma yn un arbennig i bobl ifanc 12-25, eu ffrindiau a’u teulu. Cofrestra ar Eventbrite.

Dathlu Diwedd Arriva – Gorsaf Ganolog Caerdydd

💅💅💅

Gan sôn am ddigwyddiadau Facebook, edrycha ar hwn! Mae yna LAWER o bobl o blaid dod at ei gilydd o flaen yr orsaf ganolog am barti mawr ar y diwrnod bydd Trenau Arriva Cymru yn symud o’r neilltu i Trafnidiaeth Cymru. Ond tybed os bydd hyn yn digwydd o ddifri?

Anerchiad y Genedl (A Nation’s Address)

14-16 Hydref – The Old Laundry (CF24 4SJ) – Am ddim

Siarad y gwir, gan gyfeirio dwy linell ar fideo at Theresa May a Donald Trump, dau o arweinwyr mwyaf y byd. Bydd y fideo gorffenedig yn cael ei ddangos yn Made in Roath… er mae’n debyg bydd yn cynnwys tipyn o regi! Gwybodaeth bellach yma.

Myths for Millenials

Mercher, 17 Hydref – 7:30-10:30yh – The Gate – Am ddim

Cyfres fer o ddarnau theatr yn rhoi ongl Cymraeg i hen chwedlau o’r Orpheus i’r Mabinogi. Digwyddiad Facebook am fanylion pellach.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd