Pethau Rhad Ac Am Ddim i Wneud Yng Nghaerdydd: 26 Gorffennaf – 1 Awst 2018

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae haf hir yn ymestyn o’n blaen… mor hir ac mor wag. Ond nid oes rhaid i ti boeni, mae theSprout yma i helpu llenwi’r dyddiau gwag. Mewn fflach bydd popeth wedi dod i ben. I sicrhau nad yw dy gyfrif banc yn dioddef gormod, dilyna’r canllaw yma am bethau rhad i’w gwneud.

Diwrnod Hwyl i’r Teulu yn Sain Ffagan

26 Gorffennaf, 2,9,16,23 Awst – Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan – Am ddim

Diwrnod llawn o weithgareddau hwyl i’r teulu. Cyfle i ddarganfod gemau Cymraeg traddodiadol yn y gweithdy teganau, a chreu tegan dy hun i fynd adref. Profi ysgol yn yr oes Fictoraidd mewn adeilad ysgol o’r cyfnod hwnnw, a darganfod hanes a diwylliant Cymraeg wrth archwilio amgueddfa awyr agored eang Sain Ffagan. Am wybodaeth bellach ffonia 02920573424 neu e-bostia learning.stfagans@museumwales.ac.uk

Y Caws Mawr

27-29 Gorffennaf – Castell Caerffili – Mynediad am ddim

Mae Caerdydd yn ddinas digwyddiadau drwy’r flwyddyn. Ond nid oes dim yng Nghaerffili gysglyd. Dim heblaw am Y Caws Mawr! Dros y mynydd, yng nghastell fwyaf cŵl De Cymru (sori Castell Caerdydd, camgymeriad oedd llenwi’r dyfrffos) bydd yna arddangosfeydd baledu (jousting), stondinau bwyd, reidiau, bandiau yn perfformio sioeau byw a llawer mwy. Gofiais i sôn bod mynediad yn hollol am ddim? Ymwela â’r wefan swyddogol am wybodaeth bellach.

Creu Ffeithlyfr

23-28 Gorffennaf – Canolfan Mileniwm Cymru – Am ddim

Pan fyddaf yn cerdded drwy’r Ganolfan, mae’n ymddangos fel bod yna ddigwyddiadau hwyl i’r teulu ymlaen yno o hyd, ac fel hyn y bu’r wythnos hon hefyd. Os wyt ti’n digwydd bod yn y Bae am ddiwrnod yna beth am ddangos dy wyneb yma a rhoi tro ar greu un o’r llyfrau bach ciwt yma yn llawn lliwiau llachar a darnau yn popio ymhobman? Mwy ar wefan y Ganolfan.

DIM MÔR PLASTIG

31 Gorffennaf – 5 Awst – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – Am ddim

Mae theSprout yn gweithio mewn cydweithrediad â’r actifyddion yn fforwm ieuenctid Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Byddant yn meddiannu arddangosfa forwrol yr amgueddfa. Bydd y moroedd model yn cael eu gorchuddio gyda llif o wastraff plastig i amlygu’r broblem o lygredd plastig yn ein moroedd. Bydd y sglefran-fôr yn cael ei ailosod gyda bagiau plastig, bydd y crwban môr yn cael aduniad gyda’r rhwyd achosodd iddo farw yn y lle cyntaf, a bydd crombil enfawr y morfil yn sugno bob math o sbwriel i’w fola. I weld yr olygfa dy hun, cer draw i’r amgueddfa yn ystod yr wythnos. Gwybodaeth bellach am yr arddangosfa ar eu gwefan.


Yn chwilio am fwy o ddigwyddiadau? Beth am nodi tudalen digwyddiadau theSprout am wybodaeth gyfoes. Cofia ddod yn ôl wythnos nesaf am fwy o bethau gwych i wneud yng Nghaerdydd fydd ddim yn torri’r banc.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd