Mewn Lluniau: Croesawu Geraint Thomas Yn Ôl i Gaerdydd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Roedd ffotograffydd theSprout, Liam Richards, yn barod gyda’i gamera yng Nghastell Caerdydd dydd Iau pan ddychwelodd y beiciwr Geraint Thomas, yn gwenu o glust i glust yn dilyn ei fuddugoliaeth yn y Tour de France. Roedd y dorf yn anhygoel, a’r hofrenyddion yn swnllyd iawn. Dyma pam bod rhaid i’r lluniau siarad drosom.

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones a’r comedïwr Max Boyce yno i dalu teyrnged i Thomas.

Yn anffodus nid ydym wedi llwyddo cael lluniau o Carwyn a Geraint yn baglu allan o’r Live Lounge sawl awr wedyn.

Roedd y nifer o bobl camera yn syndod i nifer ohonom.

Barnwyd trefnwyr y digwyddiad ar Twitter, gyda beicwyr yn dweud nad oeddent wedi darparu ar eu cyfer yn nhermau beicio i’r digwyddiad – eironig!

Nid yw’n glir os oedd unrhyw un wedi cael llofnod Geraint, neu fod pawb wedi gwthio eu ffonau symudol i’w wyneb.

I’r dyn yma, Geraint Thomas ydy’r byd. “GERAINT! GERAINT! GERAINT!!!”

Oes yna fuddugwyr Tour de France y dyfodol ymysg y dorf? Pwy fydd yn gwneud Cymru’n falch yn 2040?

Dau ddyn glas yn cyfarch Geraint.

Efallai mai nhw yw ei ‘bodyguards’.

Y beic a’r helmed fuddugol, sicr o fod yn anrheg boblogaidd iawn y Nadolig hwn.

Fel dywedodd Max Boyce, efallai dylid ailenwi Pont Hafren yn Ffordd Geraint Thomas.

Melyn = Hapusrwydd mawr.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd