Credydau Amser
Casgla Gredydau Amser am gefnogi dy gymuned, i wario ar y pethau rwyt ti’n hoffi!
Beth ydy Credydau Amser?
Mae Credydau Amser yn debyg iawn i rywbeth arall sydd efallai’n fwy cyfarwydd i ti, rhywbeth gelwir yn “arian” neu ‘y bunt’ yn ein cornel ni o’r byd. Gellir defnyddio arian i unrhyw beth. Wrth ddefnyddio Credyd Amser ymfalchïa yn y ffaith ei fod gen ti am dy fod di wedi cefnogi dy gymuned, ac wedi treulio amser yn cael hwyl. Nid yw Credyd Amser yn cael ei wario ar hen bethau diflas fel bwyd o’r siop, ac mae’n debyg nad oes gan Jeff Bezos Gredydau Amser.

Sut ydw i’n cael Credydau Amser?
Dyma rhai o’r ffyrdd gellir casglu Credydau Amser yng Nghaerdydd:
- Trwsio beic, cyfrifiadur neu rywbeth arall yn Repair Cafe Wales
- Dod yn gynrychiolydd gwirfoddol Sherman 5 gyda Theatr Sherman Caerdydd
- Gweini brecwast i rhai mewn angen yn yr Hen Lyfrgell
- Paratoi pryd o fwyd i bobl sydd yn gwella o gamdriniaeth cyffuriau ac alcohol
- Cyflwyno’r newyddion ar Bro Radio
- Torri’r gwair ym Mro Morgannwg
Pam ddim talu arian?
Mae yna wahaniaethau rhwng Credydau Amser ac arian, dim treth yn un ohonynt. Yn ogystal â buddio’r gymuned a dy fywyd di, mae credydau amser yn credu mewn system gyfartal. Rho awr ac fe gei di awr. Os wyt ti’n treulio dwy awr yn torri’r gwair, yna gallet ti weld sioe theatr wych dwy awr o hyd. Gwaith wedi’i wneud yn dda, a hwyl haeddiannol!

Ar beth ydw i’n cael gwario Credydau Amser?
Bydd bron popeth gellir gwario credydau amser arnynt yn buddio ti’n bersonol, o ymarfer corff i’r celfyddydau. Dyma fersiwn byr o’r rhestr lawn:
- Gweld cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant
- Dringo yn Boulders
- Gweld gêm criced yn Stadiwm Swalec ym Mharc Bute
- Ymdrochi mewn diwylliant yn awyrgylch godidog Canolfan Mileniwm Cymru
- Ymweld â Techniquest!
- Nofio a sesiynau am ddim yn y gampfa ym mhob canolfan hamdden (bron iawn) yng Nghaerdydd, Caerffili a thu hwnt – gan gynnwys y Pwll Rhyngwladol (gyda’i sleidiau gwych)
- Sgrialu yn Spit & Sawdust
- Mynediad i nifer o leoliadau hanesyddol am ddim, gan gynnwys Castell Caerffili
- Triniaeth harddwch gan Goleg y Cymoedd
Sut ydw i’n dechrau casglu Credydau Amser?
I ddechrau casglu, bydd angen mynd i timecredits.com, chwilio am weithgaredd o ddiddordeb yn dy ardal, a chysylltu â’r trefnydd.
Am wybodaeth bellach ar gyfleoedd gwirfoddoli Caerdydd, edrycha ar ein tudalen gwybodaeth Gwirfoddoli.

Partneriaid Ariannu


