Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cyfeirio at blant a phobl ifanc sydd ag anawsterau neu anableddau dysgu sy’n ei wneud yn anoddach dysgu na’r mwyafrif o blant o’r un oedran. Gall hyn hefyd olygu bod ag anabledd corfforol a all atal rhywun rhag defnyddio rhai o gyfleusterau addysgol yr ysgol.

Enghreifftiau eraill o ADY yw pobl ifanc gyda nam ar eu clyw neu olwg, neu anawsterau lleferydd neu iaith. Gall Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), Dyslecsia ac Anawsterau Ymddygiad, Emosiynol a Chymdeithasol (BESD) hefyd ddod o dan y teitl ADY.

Dyma rhai o’r pethau gellir ei ddarganfod ar y dudalen:

Gwasanaethau Cenedlaethol

Adran hawliau anabledd ac addysg Gov.uk – Gwybodaeth hawliau i rai gydag anableddau.

Gyrfa Cymru – Cyllid i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anabledd

Adran AAA Mencap – Cefnogaeth i rai sydd ag ADY.

Snap Cymru – Gwybodaeth i bobl ifanc yng Nghymru.

The Mix – Gwybodaeth ar Anawsterau Dysgu a Syndromau.

Anableddau Cymru – Cymdeithas Genedlaethol sefydliadau pobl anabl yng Nghymru yn brwydro i gyflawni hawliau a chydraddoldeb i holl bobl anabl.

Innovate Trust – Darparu cyngor a chefnogaeth i bobl anabl.

Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.

Apiau Defnyddiol

AccesAble – Mae’r app yma yn rhoi’r wybodaeth fanwl sydd ei angen i weld os yw rhywle yn safle cyraeddadwy.

Blogiau a Chanllawiau

Understanding Learning Disabilities – The Mix

SuperSummary – Guide to Overcoming Dyslexia – Canllaw adnoddau i rai gyda dyslecsia, eu rhieni a’u hathrawon. Dolenni i sefydliadau sydd yn canolbwyntio ar ddyslecsia ac anableddau dysgu fel arall.

Fideos

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd