Dy Gyfle i Gymryd Rhan, WOWsers!

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae gŵyl fyd-eang yn dathlu merched yn dod i Gaerdydd mis Tachwedd ac maent yn chwilio am bobl ifanc i greu rhywbeth arbennig i’w gyflwyno yn y digwyddiad.

Lansiwyd Gŵyl WOW (Merched y Byd) yn 2011 yng Nghanolfan y Southbank yn Llundain ac wedi ehangu ers hynny i 15 o ddinasoedd dros 5 cyfandir. Mae’r ŵyl yn gyfle i bobl o bob oedran a chefndir i ddathlu llwyddiannau merched ac archwilio’r rhwystrau sydd yn eu hatal o gyflawni’u llawn botensial a chyfrannu i’r byd.

Cymera ran yn yr ŵyl

Mae’r rhaglen WOWsers yn chwilio am 10 o wirfoddolwyr 15 i 18 oed i helpu creu elfen o WOW Caerdydd, fel araith neu ddarn drama neu rywbeth. Bydd hwn wedyn yn cael ei gyflwyno yn yr ŵyl yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter o Dachwedd 23-25, 2018.

Bydd y bobl ifanc sy’n cael eu dewis, y WOWsers, yn cyfarfod bob dydd Mercher rhwng 24ain Medi a 26ain Tachwedd, 4-6yh, i drafod syniadau a datblygu prosiect i’w arddangos yn yr ŵyl. Bydd y WOWsers hefyd yn helpu siapio a llywio rhaglen Diwrnod Ysgolion WOW sy’n cael ei gynnal ar ddydd Gwener, 23 Tachwedd.

Sut i gysylltu

Os wyt ti eisiau cymryd rhan, gofynna i riant/gofalwr am ganiatâd a gyrru llythyr byr yn dweud pam fydda ti’n hoffi bod yn un o’r WOWsers yn WOW Caerdydd i charlotte.lewis@southbankcentre.co.uk neu rhiannon.white@southbankcentre.co.uk cyn Mehefin 22.

Dyddiadau pwysig:

  • Dyddiad cau ceisiadau Mehefin 22ain, 2018
  • Bydd y WOWsers yn cael eu dewis yn ystod penwythnos Gorffennaf 14 a 15 20018
  • Hyfforddiant bob dydd Mercher rhwng 24ain Medi a 26ain Tachwedd, 2018
  • Gŵyl WOW Caerdydd – Dydd Gwener, 23ain i Ddydd Sul 25ain Tachwedd 20018 yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter
Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd