Beth ydy Credydau Amser? Y Da, Y Gwych a’r Anhygoel

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Newyddion da. Caerdydd, lle ti’n debygol o fyw os wyt ti’n darllen hwn, ydy’r lle gorau i fyw os wyt ti eisiau ennill CREDYDAU AMSER. Dyma’r lle gorau hefyd i WARIO credydau amser. “Ond beth YDY Credydau Amser?” Wel, gwranda’n astud wrth i mi ddweud wrthyt ti.

Beth ydy Credydau Amser?

Iawn, iawn, fe glywais i ti’r tro cyntaf. Mae Credydau Amser yn debyg iawn i rywbeth arall sydd efallai’n fwy cyfarwydd i ti, rhywbeth gelwir yn “arian”. Yn y gornel hon o’r byd efallai eich bod wedi arfer gyda gweld y ‘punt’. A gan fod Credydau Amser yn dod fel nodyn bach prydferth gyda llawer o luniau arno, ni ellir dadlau nad yw’n edrych yn debyg i arian parod. Ond gall wario arian ar unrhyw beth. Pan fyddi di’n defnyddio Credyd Amser rwyt ti’n gwybod dy fod wedi’i ennill wrth gefnogi dy gymuned, ac yn cael hwyl. Nid oes yr un Credyd Amser wedi’i wario ar hen fwydydd diflas o’r archfarchnad, ac mae’n debyg nad yw Jeff Bezos yn berchen ar Gredyd Amser.

Sut ydw i’n ennill Credydau Amser?

Dyma rhai o’r ffyrdd gellir ennill Credyd Amser (neu sawl Credyd Amser) yng Nghaerdydd:

Pam ddim talu?

Mae yna wahaniaethau rhwng Credydau Amser ac arian, dim treth yn un. Yn ogystal â buddio’r gymuned a dy fywyd di, mae credydau amser yn credu mewn system gyfartal. Rho awr ac fe gei di awr. Os wyt ti’n treulio dwy awr yn torri’r gwair, yna gallet ti weld sioe theatr wych dwy awr o hyd. Gwaith wedi’i wneud yn dda, a hwyl haeddiannol!

Ar beth ydw i’n cael gwario Credydau Amser?

Bydd bron popeth gellir gwario credydau amser arnynt yn buddio ti’n bersonol, o ymarfer corff i’r celfyddydau. Dyma fersiwn byr o’r rhestr lawn:

Sut ydw i’n dechrau ennill Credydau Amser?

Nid oes y fath beth â “chyfrif banc” Credyd Amser (eto…) Ti’n ennill ychydig, a gwario ychydig. I ddechrau ennill, bydd angen mynd i timecredits.com, chwilio yn eich ardal am weithgaredd sydd o ddiddordeb, a chysylltu â’r trefnydd.

Am wybodaeth bellach ar gyfleoedd gwirfoddoli Caerdydd, edrycha ar ein tudalen sydd yn cynnwys map defnyddiol:

Gwirfoddoli

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd