Archif theSprout: Darganfod Pob Erthygl Cyhoeddwyd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Cyhoeddwyd erthygl gyntaf theSprout yn ôl yn 2007 – ond ble mae’r erthygl yma?

Dyma ef. Ac mae pob erthygl cyhoeddwyd rhwng 2007 a 2016 yn dal i fodoli ar-lein hefyd.

Yn fis Mai 2015 symudwyd i wefan WordPress newydd ac archifwyd yr hen wefan. Ond mae posib darllen a chwilio’r 5195 o erthyglau o hyd. Os wyt ti’n hen Sproutiwr ac yn chwilio am rai o dy hen erthyglau, dyma’r lle i chwilio.

Awgrymiad sydyn – os wyt ti wedi cadw’r hen URL yn rhywle, rho’r gair “archive” o flaen y darn thesprout.co.uk. Felly bydd yr erthygl fwyaf doniol i gael ei gyflwyno i theSprout yn gallu cael ei ddarganfod ar http://archive.thesprout.co.uk/en/news/priodas-hoyw-amrhydeinig/19007.html

Felly mae posib darganfod yr erthyglau yn yr Archif sydd wedi’u tagio fel:

Weithiau byddem yn postio hen glasuron o’r Archif ar y wefan newydd, fel Sut i Goginio Eog Mewn Peiriant Golchi Llestri. Os oes gen ti awgrymiadau am erthyglau hoffet ti eu gweld ar y wefan newydd yna cysyllta neu adael sylwad isod.

How To Cook Salmon In A Dishwasher

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu’n cael trafferth darganfod rhywbeth yn yr Archif yna cysyllta hefyd.

Y Saith Godidog (sydd yn bump mewn gwirionedd)

Fel gwledd fach o’r gorffennol, cyhoeddwyd y Saith Godidog yn 2015 pan roedd CLICarlein ar fin dod i ben, sef “saith erthygl cafodd eu darllen fwy nag eraill, neu rhoddodd ysbrydoliaeth i eraill wneud pethau gwych.” Dyma’r pump ddaeth o Gaerdydd…

Gobeithiwn fod hyn yn esbonio ychydig am ble aeth yr hen erthyglau. Os oes gen ti gwestiwn cysyllta neu adael sylwad isod.


Cymera ran:

Eisiau cyrraedd miloedd o bobl ifanc Caerdydd? Cyflwyna dy newyddion yma neu cofrestra i ddod yn gyfrannwr.

*Eisiau dod yn adolygwr? Ymuno â Grŵp Golygyddol theSprout ar Facebook neu e-bostia info@thesprout.co.uk

Clicia yma ar gyfer manylion cyfarfod nesaf y grŵp golygyddol.

Sprout Editorial Group Banner.

Gadael sylwad isod:

Mae gadael sylwad isod yn sydyn ac yn rhad ac am ddim, ond awgrymir i ti gofrestru gyda dy e-bost neu fel gwestai er mwyn cadw enw defnyddwyr yn Sproutiog ac yn ddienw (a byth postio manylion personol!).

Am wybodaeth bellach ar aros yn ddiogel ar-lein, edrycha ar ein hadran diogelwch ar-lein.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd