***WEDI CAU*** Cyfle Swydd: Prentis Cyfathrebu

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae ProMo-Cymru yn fenter gymdeithasol ac elusen sydd yn darparu datrysiadau datblygiad arloesol yn y sector cymdeithasol. Rydym yn arbenigo mewn cyfathrebu digidol ieuenctid a theuluoedd, eiriolaeth plant ac adfywiad adeiladau cymunedol.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’n tîm Cyfathrebu ac Ymrwymiad fel Prentis Cyfathrebu.

Mae’r tîm Cyfathrebu yn gyfrifol am gyflwyno nifer o brosiectau, yn ogystal â chodi proffil ProMo-Cymru a’u gwasanaethau ar y cyfan.

Bydd y swydd yma yn cynnwys helpu’r tîm gyda chyfryngau cymdeithasol, marchnata, golygu, darllen proflen, gwaith gweinyddol, ysgrifennu copi a chreu cynnwys dwyieithog.

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, creadigol sydd yn hoff iawn o ysgrifennu a chreu cynnwys. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o ysgrifennu blog, golygu fideo, defnyddio Twitter, Facebook, Snapchat ac Instagram a bod yn drefnus iawn!

Yn bwysicach fyth, bydd yn deall diwylliant ieuenctid, gyda syniadau gwych ac yn awyddus iawn i wneud gwahaniaeth yn ei gymuned!

Y brentisiaeth: Y brentisiaeth: fel rhan o’r rôl disgwylir i chi gwblhau cymhwyster Gweinyddu Busnes lefel 2 neu 3, sydd yn cynnwys unedau mewn Egwyddorion Cyfathrebu a Gwybodaeth Busnes ac Egwyddorion Cyfryngau Cymdeithasol o fewn Busnes.

Mae prentisiaeth yn eich galluogi i ennill cymwysterau wrth dderbyn cyflog. Bydd y brentisiaeth yma yn eich darparu gyda chymwysterau sydd yn cael eu hadnabod gan y diwydiant, gwybodaeth am y sector a’r sgiliau sydd ei angen i gychwyn eich gyrfa. Am wybodaeth ymwelwch â:
 https://llyw.cymru/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/?lang=cy

Lawrlwytho y disgrifiad swydd.

Anfonwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau erbyn 24 Mai 2018

Cysylltwch â info@promo.cymru/02920 462 222 am wybodaeth bellach.

Cyfweliadau ar 30/ 31 Mai 2018

Mae’r swydd hon wedi’i chefnogi gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd